
Trwydded tyllu croen
Os ydych yn gweithio mewn busnes, sy'n tyllu croen, mae'n rhaid bod trwydded gennych.
Mae'r drwydded yn cwmpasu aciwbigo neu datŵio, lliwio croen lled-barhaol (microbigmentu), tyllu cyrff a chlustiau neu electrolysis.
Bydd angen trwydded arnoch ar gyfer y busnes lle mae'r croen yn cael ei dyllu ac ar gyfer pob aelod o staff sy'n tyllu croen.
Sut mae gwneud cais
Cofrestru mangre lle tyllir croen
Cofrestru gweithredwr a fydd yn tyllu croen
Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen.
Ffïoedd
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' ac anfon y tâl gyda'ch ffurflen wedi'i chwblhau.
Safleoedd | £111.00 |
Person | £61.00 |
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.