Gan fod y Ganolfan Ddinesig ar gau i aelodau'r cyhoedd oherwydd y pandemig coronafeirws, rydym yn newid y ffordd rydym yn prosesu eich ceisiadau. Mae llawer o aelodau staff y cyngor yn gweithio gartref a dylid rhoi gwybod i ymgeiswyr efallai na fydd ceisiadau a anfonir drwy'r post yn cael eu derbyn na'u hystyried yn brydlon.
- cyn gwneud cais am Drwydded Mangre Newydd neu gais i'w hamrywio neu am Dystysgrif Mangre Clwb, cysylltwch â ni drwy e-bostio Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk
- os ydych wedi gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro sydd wedi'i ohirio oherwydd coronafeirws, anfonwch y manylion atom ni trwy e-bostio Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk
- os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â chais neu os hoffech gyflwyno sylwadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk
- cyn gwneud cais am Adolygiad cysylltwch â ni drwy e-bostio Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk

Trwyddedau alcohol ac adloniant
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn cwmpasu gwerthu a chyflenwi alcohol, rhai mathau o adloniant a lluniaeth hwyrnos.
Os ydych yn rheoli safle busnes neu glwb aelodau sy'n gweini alcohol neu'n darparu adloniant, bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Hefyd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded i weini lluniaeth hwyrnos.
Mae'n rhaid i bob cais am drwydded alcohol neu adloniant fodloni pedwar amcan trwyddedu. Mae'r rhain er mwyn helpu i sicrhau bod y drwydded yn diwallu lles y cyhoedd. Y pedwar amcan yw:
- atal troseddu ac anhrefn;
- diogelwch y cyhoedd;
- atal niwsans cyhoeddus;
- amddiffyn plant rhag niwed.