
Trethi Busnes
Yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch am Drethi Busnes a sut i'w talu.
Mae Cyfraddau Busnes yn fath o dreth leol sy'n cael eu talu gan breswylwyr neu berchnogion eiddo masnachol megis siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.
Fe'u cesglir gan y cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r arian a gesglir yn cael ei dalu i bwll canolog ac yna'n cael ei ailddosbarthu ar draws Cymru i helpu i dalu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol.
Mae yna fuddion masnachol eraill y mae Cyfraddau Busnesau yn talu amdanynt megis mastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian parod a meysydd parcio.
Ydych chi'n ystyried dechrau busnes neu ehangu busnes presennol? I gael cymorth a gwybodaeth, ffoniwch Busnes Cymru ar 03000 603000 neu ewch i Busnes CymruYn agor mewn ffenest newydd
Gwybodaeth sylfaenol am Drethi Busnes
Gwybodaeth gyffredinol am Drethi Busnes.
Talu'ch Trethi Busnes
Mae sawl ffordd i dalu eich Trethi Busnes.
Problemau wrth dalu'ch Trethi Busnes?
Cysylltwch â ni os ydych yn cael anawsterau talu.
Lleihau'ch Trethi Busnes
Os ydych yn talu Trethi Busnes, gallech fod yn gymwys ar gyfer cymorth trethi.
Dweud wrthym am newidiadau sy'n effeithio ar eich Trethi Busnes
Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein i ddweud wrthym am symud i mewn i eiddo neu allan o eiddo neu ofyn am gopi o fil.
Cysylltwch â Trethi Busnes
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn y mae ei angen arnoch neu mae gennych ymholiad gwahanol, gallwn e-bostio ni.
Gwefan:
www.abertawe.gov.uk/trethibusnes
Yn agor mewn ffenest newydd
E-bost: business.rates@swansea.gov.uk
Ffôn: 01792 635937
Manylion llawn Cysylltwch â Trethi Busnes