
Tai Rhent Preifat
Rydym yn goruchwylio gwelliannau a gwaith cynnal a chadw ar dai rhent preifat. Rydym yn gwneud llawer o waith gyda Thai Amlbreswyl (HMO).
Mae nifer o Dai Amlbreswyl Abertawe yn wardiau Uplands a'r Castell, ardaloedd sydd â llawer iawn o fyfyrwyr. Gyda thai amlbreswyl rydym yn canolbwyntio ar gyflwr yr eiddo, cymhareb yr amwynderau i breswylwyr, rhagofalon tân a'r rheolaeth.
Rydym hefyd yn delio â nifer mawr o gwynion gan denantiaid eiddo a feddiannir yn unigol.