Tystysgrifau storio petrolewm
Ceir deddfwriaeth sy'n ymwneud â storio petrol yn ddiogel er mwyn atal tân a ffrwydrad a allai ddigwydd os oes ffynhonnell danio gerllaw.
Bydd angen i chi gyflwyno cais am dystysgrif Storio Petrolewm os ydych yn
- weithle sy'n storio petrol lle caiff petrol ei ddosbarthu'n uniongyrchol i danc cerbyd â motor tanio mewnol, h.y. gorsafoedd petrol manwerthol ac anfanwerthol;
- eiddo nad yw'n weithle sy'n storio petrol, er enghraifft mewn cartrefi preifat neu mewn clybiau/cymdeithasau (neu debyg)
Cyhoeddir y tystysgrifau gan yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm. Dinas a Sir Abertawe yw'r Awdurdod Gorfodi Petrolewm yn ardal Abertawe. Mae hyn yn rhan o Reoliadau Petrolewm (Cydgrynhoi) 2014
Tystysgrifau
Mae'r tystysgrifau'n cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i'r safle, megis y trefniadau storio, yn ogystal â manylion ynghylch dilysrwydd y dystysgrif a'r amgylchiadau lle mae'n rhaid dweud wrth yr awdurdod gorfodi am unrhyw newidiadau materol a ragnodir.
Dylai eiddo sy'n gwerthu gwirod petrolewm wedi'u hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel bod y cynnyrch yn cael ei ddosbarthu'n ddiogel ac nid yw'n beryglus i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn disgwyl bod eiddo sy'n storio gwirod petrolewm wedi'u cynnal a'u cadw mewn modd diogel a chywir, gyda gweithdrefnau rheoli a gweithredu eglur, ynghyd â staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.
Ceidwad
Ceidwad yw person sy'n cadw petrol ar eiddo dosbarthu, sy'n gyfrifol am weithredu'r safle'n ddiogel a bydd dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod y safle'n cydymffurfio â'r rheoliadau.
Rhaid i'r ceidwad:
- ddweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm cyn meddiannu safle ardystiedig.
- sicrhau bod lluniadau wrth raddfa ar gael ar y safle i lunio rhan o'r cynllun argyfwng.
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm am unrhyw achosion, yn unol â'r canllawiau arfer gorau a dderbynnir yn genedlaethol ar adrodd am achosion, gan gynnwys gollyngiadau, difrod i osodiadau petrol etc.
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm os gwneir newidiadau materol a ragnodir i'r eiddo ardystiedig.
- parhau i fodloni'r holl ddeddfwriaeth arall sy'n berthnasol i weithrediad diogel y safle e.e. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Amgylchedd Ffrwydrol 2002.
- dweud wrth yr Awdurdod Gorfodi Petrolewm os ydyw am roi'r gorau i feddiannu/weithredu.
Newid Materol a Ragnodir
Mae newid materol a ragnodir i eiddo'n ymwneud â'r newidiadau canlynol:
- rhoi'r gorau i ddefnyddio un neu fwy o danciau storio petrol;
- symud neu ddadgomisiynu un neu fwy o'r tanciau storio petrol yn barhaol;
- gosod unrhyw danc, gwaith pibellau neu waith pibellau anwedd sy'n ymwneud â storio a dosbarthu petrol;
- gosod unrhyw bwmp petrol, unrhyw bwmp neu beiriant dosbarthu modurol arall mewn lleoliad newydd.
Sut mae gwneud cais
Cais ar-lein ar gyfer trwydded storio petrolewm
Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.
Ffïoedd
Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon ynghyd â'r ffurflen.
Mae'r ffioedd yn dibynnu ar swm y petrol a storir.
Band A dim mwy na 2,500 o litrau | £45.00 |
Band B rhwng 2,500 a 50,000 o litrau | £61.00 |
Band C mwy na 50,000 o litrau | £128.00 |
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch safonau.masnach@abertawe.gov.uk.