Trwydded siop rhyw a sinema
Os bydd mangre'n gweithredu fel siop ryw neu sinema ryw, bydd angen trwydded gan yr Awdurdod hwn arni.
Siopau rhyw yw unrhyw fangreoedd sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw. Sinema ryw yw lleoliad sy'n dangos ffilmiau rhywiol eu naws i aelodau'r cyhoedd.
Bydd y drwydded yn cynnwys amodau i gynnal diogelwch y choedd a gwedduster a hefyd i sicrhau mai pobl dros 18 oed yn unig sy'n cael mynediad. Rhaid i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o'u cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.
Sut mae gwneud cais
I gael mwy o wybodaeth am wneud cais, ffoniwch yr Is-adran Drwyddedu evh.licensing@swansea.gov.uk.
Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.
Ffioedd
Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud eich siec yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon ynghyd â'r ffurflen.
Cais | Caniatâd | Cyfanswm | |
---|---|---|---|
Lleoliad Adloniant Rhywiol | £1403 | £203 | £1606 |
Siop Ryw | £1310 | £203 | £1513 |
Adnewyddu Siop Ryw | £270 | £818 | £1088 |
Mewn rhai sefyllfaoedd, gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad.