
Priodasau
Trefnwch eich diwrnod mawr yn Neuadd Brangwyn, lleoliad perffaith ar gyfer priodas.
7/6/21 Gallwn gynnal priodasau wrth gadw pellter cymdeithasol yn awr i dros 100 o bobl a derbyniadau ar gyfer hyd at 30 o bobl.
Rhowch wybod i ni beth hoffech ei gael yn eich digwyddiad gan ddefnyddio ffurflen gais cadw lle ar gyfer digwyddiad yn Brangwyn.
Er mwyn trefnu ymweliad i weld yr ystafelloedd sydd ar gael, ffoniwch ni ar 01792 635432 neu e-bostiwch brangwyn.hall@swansea.gov.uk
Behind the scenes photo shoot. from Steve Ratcliffe Films
Cymerwch gip ar ystafell yr Arglwydd Faer wedi'i gosod ar gyfer seremoni sifil yn y clip YouTube isod.
Cofrestrydd
01792 636188
Peidiwch ag anghofio ffonio'r cofrestrydd er mwyn cadw'r dyddiad a'r lle, gan na allwn dderbyn eich cais i gadw lle nes eich bod wedi anfon copi o'ch cadarnhad swyddogol gan y cofrestrydd.
Rhaid i ni gael prawf eich bod wedi cael eich Seremoni Sifil Brydeinig cyn i ni fedru bwrw 'mlaen i ganiatáu'r cais i gadw lle.(naill ai drwy ddangos eich tystysgrif priodas neu lythyr prawf gan y cofrestrydd).
Adloniant
Mae croeso i chi drefnu DJ / diddanwyr o'ch dewis.
Ffotograffiaeth
Os byddwch yn dymuno cael ffotograffau wedi'u tynnu yn Neuadd y Ddinas, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais i gadw lle. Neu, os hoffech gael cofnod o'ch diwrnod arbennig yn un o barciau hardd y ddinas, ffoniwch 01792 635411.
Pecynnau Bwyd a Diod ar gyfer Priodasau
Cysylltwch â ni am sampl o becynnau bwyd a diod ar gyfer priodasau. Ffoniwch ni ar 01792 635432 neu e-bostiwch brangwyn.hall@swansea.gov.uk