Pontydd Pwyso
Caiff pontydd pwyso eu gosod yn y ddaear er mwyn gallu pwyso cerbydau a'u cynnwys. Yn aml, rheolir pontydd pwyso gan gwmnïau preifat sy'n eu cyflwyno i aelodau'r cyhoedd.
Cyfyngir cerbydau i uchafswm pwysau a nodir, fel arfer, gan y gwneuthurwr. Gall swyddogion yr Heddlu a Safonau Masnach gynnal gwiriadau dirybudd ar gerbydau i sicrhau eu bod yn is na'r uchafswm pwysau. Mae gorlenwi cerbyd yn erbyn y gyfraith.
Os ydych yn dymuno rheoli pont bwyso fel Pont Bwyso Gyhoeddus, rhaid i chi feddu ar drwydded. Byddwch hefyd yn cael eich asesu i sicrhau y gallwch reoli'r bont bwyso'n foddhaol a chwblhau unrhyw ddogfennau angenrheidiol.
Sut mae gwneud cais
Cysylltwch â Safonau Masnach gan ddefnyddio'r manylion isod os ydych am gyflwyno cais am dystysgrif pont bwyso gyhoeddus. Gallant hefyd anfon copi o'r ffurflen gais atoch y dylech ei dychwelyd ynghyd â'r ffi.
Pontydd Pwyso yn Abertawe
Rhestrir pontydd pwyso Abertawe isod. Cysylltwch â'r safle'n uniongyrchol i gael gwybod am amserau agor, y cyfyngiad pwysau ac unrhyw ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu.
Pontydd Pwyso Cyhoeddus | |
Safle Byrnu, 6 Clôs Ferryboat, Parc Menter, Llansamlet, Abertawe SA6 8QN | 01792 796886 |
Nid oes gan y pontydd pwyso canlynol drwydded at ddefnydd cyhoeddus.
Pontydd Pwyso Lleol |
Safle Tirlenwi Tir John, Heol Dan-y-graig, St Thomas, Abertawe SA1 8NS |
Griffiths Recycling, JR Works, Bryntywod, Llangyfelach, Abertawe SA5 7LE |
Derwen Plant, Cei Mynachlog Nedd, Sgiwen, Castell-nedd SA10 6BL |
Stenor Environmental, Doc y Brenin, Abertawe SA1 8QT |
EPS Environmental Practical Solutions, Depo'r Trên Llwythi, Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8PX |
Masnachwyr Metel Sgrap |
Abertawe Metals, 15 Clôs Dyffryn, Ystâd Ddiwydiannol Abertawe, Abertawe SA6 8QG |
EPS Environmental Practical Solutions, Cei Graigola, Doc y Brenin, Abertawe SA1 8QT |
DBC Site Services, Uned 7 Ystâd Ddiwydiannol Players, Clydach, Abertawe SA6 5BQ |
AJT Recycling, Fach Industrial Estate, Swansea SA5 4HF |
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gofrestr o'r holl fasnachwyr metel sgrap trwyddedig yng Nghymru. Gallwch chi weld y gofrestr ar y wefan