Ailddechreuodd y gwasanaethau Parcio a Theithio ddydd Llun 12 Ebrill.

Parcio a Theithio
Mae gan Abertawe ddau safle Parcio a Theithio sydd yng Nglandŵr ac ar Ffordd Fabian.
Mae'r safleoedd hyn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 7.00am a 7.00pm, ac yn darparu cyswllt bws mynych i ganol y ddinas ac oddi yno, gan ddefnyddio cerbydau cwbl hygyrch.
gost yw i barcio car drwy'r dydd a theithio i ganol y ddinas ac yn ôl ar y bws ar gyfer hyd at 4 teithiwr yw £2.50 (y pris am barcio yw £1 ar hyn o bryd).
Mae gan pob safle CCTV llawn. Mae'r meysydd parcio ym mhob safle wedi derbyn Gwobr Meysydd Parcio wedi'u Diogelu.
Mae'r gwasanaeth Parcio a Theithio yn gweithredu yn Abertawe gydag arian gan Lywodraeth Cymru.

Parcio a Theithio Ffordd Fabian
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.

Parcio a Theithio Glandŵr
Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas.