
Newidiadau arfaethedig i wasanaethau newyddion a chylchgronau mewn llyfrgelloedd
Hoffem glywed eich barn am ein cynnig gwasanaeth cynlluniedig ar gyfer 2021 a sut gallwn eich helpu i wneud yn fawr o'r adnoddau hyn.
Ein hamrywiaeth o wasanaethau cynlluniedig ar gyfer 2021
Newyddion ar-lein a digidol
Mae Llyfrgelloedd Abertawe'n bwriadu cyflwyno PressReader https://www.pressreader.com/ i holl ddefnyddwyr y llyfrgell. Bydd PressReader yn darparu papurau newydd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol mewn fformat y gellir ei lawrlwytho, gyda lluniau, a bydd hyd at 3 mis o gyhoeddiadau blaenorol ar gael. Mae nodweddion yn cynnwys yr opsiwn i newid i fformatau mwy hygyrch a'u cyfieithu i ieithoedd gwahanol.
Bydd PressReader ar gael yn yr holl lyfrgelloedd ac i bob aelod o'r llyfrgell ei ddefnyddio'n unrhyw le ar ddyfais symudol. Mae hyn yn unol â'r cam a gymerwyd gan wasanaethau llyfrgelloedd cyffredinol yng Nghymru i geisio cynnig mwy o bapurau newydd ar-lein a llai o bapurau newydd printiedig.
Bydd Llyfrgelloedd Abertawe hefyd yn parhau i ddarparu mynediad at gynnwys papurau newydd y gellir chwilio drwyddo drwy NewsBank, at ddibenion gwaith cartref ac i gael gwybodaeth am nifer o bynciau. Mae papurau newydd rhanbarthol hanesyddol y DU hefyd ar gael ar ffurf digidol a chwiladwy drwy The British Newspaper Archive https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/swan_cy/.
Mae cyflwyno Overdrive eisoes wedi cynyddu argaeledd cylchgronau ar-lein i aelodau'r llyfrgell yn 2021, drwy danysgrifiad cenedlaethol ac ap Libby https://swanseauk.overdrive.com.
Ein papurau newydd argraffedig yn 2021
I ategu'r cynnig ar-lein cyffredinol rydym yn bwriadu cynnig copïau caled o'r canlynol i'w darllen yn ein llyfrgelloedd:
Yn Llyfrgell Ganolog Abertawe:
- South Wales Evening Post (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
- Daily Mail (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Daily Mirror (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Guardian (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Papur newydd I (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Times (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Western Mail (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Sunday Telegraph
- Wales on Sunday
- Sunday Mirror
- Y Cymro
- Art Review
- History Today
- Literary Review
- National Geographic
- New Scientist
- Time
- Which?
- Holiday Which?
- Barn
- Golwg
- Lingo Newydd
- Wcw a'i Ffrindiau
Mewn llyfrgelloedd cymunedol (lle bydd gwasanaethau lleol yn gallu cynnig y canlynol):
- South Wales Evening Post (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Papur newydd I (ar ddiwrnodau y mae'r llyfrgell ar agor)
- Cyfnodolion Cymraeg (mewn llyfrgelloedd dethol)
Mae rhesymau dros y newidiadau hyn i'n gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:
- Nid yw rhai llyfrgelloedd cymunedol yn derbyn papurau newydd yn ddyddiol felly mae argaeledd ar draws y llyfrgelloedd wedi bod yn anghyfartal.
- Ni fyddai angen atal gwasanaethau ar-lein at ddibenion iechyd a diogelwch, fel y bu'n rhaid gwneud gyda chopïau caled dros y flwyddyn ddiwethaf.
- Mae cynnydd mewn pris cyhoeddiadau argraffedig a'r ffaith bod nifer o gwmnïau ar fin atal cyhoeddi papurau o gwbl yn golygu bod angen ffordd fwy cynaliadwy a dibynadwy o ddarparu mynediad at gynnwys papurau newydd a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael gennym.
- Mae digidol yn caniatáu i fwy nag un cwsmer ar y tro ddarllen papur newydd ar unrhyw bryd; ni fydd copïau'n mynd ar goll neu'n cael eu difetha.Bydd amrywiaeth eang o deitlau ar gael i bob aelod o'r llyfrgell, gyda mwy o fynediad at gyhoeddiadau blaenorol.Bydd eich papur newydd ar gael 24/7 o'r dyddiad cyhoeddi.
- Bydd ystod fwy amrywiol o deitlau ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd, ac felly bydd yn decach ac yn fwy adlewyrchol o'n cymunedau lleol.
- Mae PressReader yn cynnwys nodweddion hygyrchedd fel closio at y testun a swyddogaethau testun ar lafar, sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â darparu print safonol yn unig.
- Bydd yr effaith amgylcheddol o gael gwared ar bapurau newyddion copi caled yn lleihau.
- Bydd darparu dyfeisiau i gwsmeriaid nad oes ganddynt eu dyfeisiau eu hunain i ddarllen teitlau digidol yn helpu i sicrhau mynediad i bawb.
- Darperir cyngor, arweiniad ac arddangosiadau i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio'r gwasanaethau newydd, os dymunant.
I grynhoi - rydym am gynnig tanysgrifiad ar-lein sy'n cynnig gwell gwerth am arian yn ogystal â darpariaeth decach, lawnach a mwy dibynadwy. Byddwn hefyd yn cynnig detholiad o ddeunyddiau argraffedig sy'n gytbwys, yn gynaliadwy ac yn gymesur ac sy'n ategu'r deunydd digidol.
Lleisiwch eich barn
Cyfle i ddweud eich dweud am y newidiadau arfaethedig i'r llyfrgell
Dyddiad cau: 11.59pm, Dydd Gwener 27 Awst 2021