Sylwer y bydd diwrnodau ac amserau agor busnesau'n amrywio. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod digon o stoc yn y lleoliadau hyn ond ni allwn sicrhau y bydd sachau ar gael pan fyddwch chi'n cyrraedd.
Byddwch yn ystyriol a chymerwch un rholyn un unig o bob math o sach fel y bydd digon i bawb. Mae gan bob rholyn gwyrdd 26 o sachau ac mae gan leinwyr bwyd 48 felly dylai'r rhain bara am wythnosau o gasgliadau.

Angen mwy o sachau ailgylchu?
Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosib i chi ailgylchu. Er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o sachau a biniau, maent ar gael oddi wrth nifer o leoedd.
Sachau gwyrdd a bagiau bwyd
Gallwch ofyn am ragor o sachau ar ymyl y ffordd drwy ddefnyddio'r tag ailarchebu sydd ym mhob rholyn. Rhowch hwn ar eich sach ar y diwrnod casglu wrth i'ch sachau ddechrau dod i ben ac yna dylai'r criwiau casglu adael rholyn newydd i chi.
Mae rhagor o'r bagiau hyn hefyd ar gael i'w casglu o nifer o siopau ac adeiladau'r cyngor ar draws Abertawe, a cheir rhestr lawn isod.
Biniau bwyd a bagiau pinc ailddefnyddiadwy
Gallwch gasglu rhai newydd o lyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu ar draws Abertawe. Gweler y rhestr lawn isod.
Sachau plastig pinc un defnydd
Os ydych yn byw ar un o'r nifer bach o strydoedd sy'n gorfod defnyddio'r sachau plastig pinc un defnydd o hyd, gallwch ofyn i'n criwiau casglu am rai newydd wrth ymyl y ffordd drwy ddefnyddio'r tag ailarchebu sydd y tu mewn i bob rholyn. Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau lle ceir biniau olwynion pinc, bydd gofalwr y safle'n gallu rhoi rhagor o sachau plastig pinc un defnydd i chi.
Bagiau gardd
Mae bagiau gardd ar gael i'w prynu am £2 yr un o lyfrgelloedd. Rhaid talu gydag arian parod yn unig, a gofynnwn i chi fynd â'r newid cywir ar gyfer nifer y bagiau y mae eu hangen. Argymhellwn eich bod yn ffonio o flaen llaw cyn teithio yno'n arbennig er mwyn gwneud yn siŵr bod yr eitemau ar gael ac mewn stoc.
Mae'r holl fagiau a biniau hefyd ar gael o'n swyddfeydd tai ardal.
Lleoliad | Sachau gwyrdd a bwyd | Bagiau ailddefnyddiadwy pinc+ biniau bwyd | Bagiau gardd |
---|---|---|---|
Blaenymaes | |||
Woodford Stores, 54 Woodford Road, Blaenymaes, SA5 5PY | Y | ||
Brynmill and Uplands | |||
Kays Convenience Store (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 61 Bernard Street, SA2 0HS | Y | ||
Uplands News (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 4-6, Gwydr Square, Uplands, SA2 0HD | Y | ||
Lifestyle Express (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, King Edwards Road, Brynmill, SA1 4LX | Y | ||
Main Reception, Fulton House, Swansea Uni Singleton Campus | Y | Y | |
City Centre | |||
Tesco Express, 11-12 De-La Beche Street, Swansea, SA1 3EZ | Y | ||
Co-op, Trawler Road, Marina, SA1 1LB | Y | ||
Students Union, University of Wales Trinity St David, Alexandra Road, SA1 5DU | Y | ||
Swansea Environment Centre, Pier Street, Swansea, SA1 1RY | Y | ||
Hafod | |||
Kumar Stores, Neath Road, Hafod, SA1 2LF | Y | ||
Mount Pleasant | |||
Londis (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 49, Norfolk Street, Mount Pleasant, SA1 6JQ | Y | ||
Clydach and Craig Cefn Parc | |||
Bev's Shop (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 30 Bethania Road, Clydach, SA6 5DE | Y | ||
Spar, 54-56 High Street, Clydach, SA6 5LN | Y | ||
Premier Express, 6 Rhyddwen Road, Craig-cefn-parc, SA6 5RA | Y | ||
Llyfrgell Clydach | Y | Y | Y |
Cwm Stores, 73, Hebron Road, Clydach, SA6 5EH | Y | ||
Bonymaen | |||
Bonymaen Communities First (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Caernarfon Way, Bonymaen, SA1 7HJ | Y | ||
Colwyn Avenue Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 143 Colwyn Avenue, Bonymaen, SA1 7EN | Y | ||
Birchgrove | |||
Birchgrove Post Office, 295 Birchgrove Road, Birchgrove, SA7 9NA | Y | ||
Llansamlet | |||
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet, Ferryboat Close, Swansea Enterprise Park, SA6 8QN | Y | Y | Y |
Trallwn Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Trallwn Road, Llansamlet, SA7 9XA | Y | ||
Llyfrgell Llansamlet | Y | Y | Y |
St Thomas and Port Tennant | |||
Canolfan Ailgylchu Tir John, Danygraig Road, St Thomas, SA1 8NS | Y | Y | |
St Thomas Post Office, 150 Port Tennant Road, Port Tennant, SA1 8JQ | Y | ||
Llyfrgell St Thomas | Y | Y | Y |
Plasmarl | |||
Plasmarl Post Office, Neath Road, Plasmarl, SA6 8JT | Y | ||
Browns Newsagent, 35, Wern Road, Landore | Y | ||
Fforestfach | |||
Kumar Stores, 870 Carmarthen Road, Fforestfach, SA5 8HP | Y | ||
Llyfrgell Fforestfach | Y | Y | Y |
Gorseinon and Loughor | |||
Canolfan Ailgylchu Garngoch, Phoenix Way, Gorseinon, SA4 9WF | Y | Y | |
Loughor Post Office (SPAR), 1-3 Castle Street, SA4 6TU | Y | ||
Llyfrgell Gorseinon | Y | Y | Y |
Penyrheol Post Office 125, Frampton Road, Penyrheol, SA4 4YE | Y | ||
Penllergaer and Pontlliw | |||
Tircoed Village Stores (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Y Cyswllt, Tircoed Village, SA4 9NY | Y | ||
Pontlliw Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 7, Swansea Road, Pontlliw, SA4 9EE | Y | ||
Premier Express, Gorseinon Road, Penllergaer, SA4 9DF | Y | ||
Gower | |||
Crofty Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 50 Pencaerfenni Lane, Crofty, SA4 3SW | Y | ||
Reynoldston Post Office, Reynoldston, Gower, SA3 1AA | Y | ||
Llyfrgell Pennard | Y | Y | Y |
Country Stores, 59 Tirmynydd Road, Three Crosses, SA4 3PB | Y | ||
Bishopston Post Office, 1 Pwlldu Lane, Bishopston, SA3 3HA | Y | ||
Herons Way Filling Station, Llanrhidian, SA3 1ES | Y | ||
Gowerton | |||
CK's SupermarketYn agor mewn ffenest newydd, Sterry Road, Gowerton, SA4 3BW | Y | ||
Llyfrgell Tregŵyr | Y | Y | Y |
Killay and Dunvant | |||
Dunvant Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Dunvant Stores, 2 Pen Y Fro, Dunvant, SA2 7TR | Y | ||
Killay Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Killay Newsagent, 428, Gower Road, Killay, SA2 7AJ | Y | ||
One Stop Shop, Derlwyn, Dunvant, SA2 7QA | Y | ||
Llyfrgell Cilâ | Y | Y | Y |
Clase | |||
Clase Supermarket (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Solva Road, SA6 7NX | Y | ||
Clase Post Office, 92 Rheidol Ave, Clase, SA6 7JS | Y | ||
Brynhyfryd and Cwmbwrla | |||
Lifestyle Express (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 187 Middle Road, Cwmdu, SA5 8EZ | Y | ||
Llyfrgell Brynhyfryd | Y | Y | Y |
Morriston | |||
Llyfrgell Treforys | Y | Y | Y |
The Corner Shop, 89 Cwmrhydyceirw Road, Cwmrhydyceirw, SA6 6LJ | Y | ||
Llangyfelach Stores, 5 Swansea Road, Llangyfelach, SA5 7JD | Y | ||
Big News, 138 Woodfield Street, Morriston, SA6 8AL | Y | ||
Mumbles and West Cross | |||
Llyfrgell Ystumllwynarth | Y | Y | Y |
West Cross Post Office, Alderwood Road, West Cross, SA3 5JD | Y | ||
Blackpill Post Office, 110 Mumbles Road, Blackpill, SA3 5AS | Y | ||
Newton News, 46 Southward Lane, Newton, SA3 4QD | Y | ||
Penlan | |||
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Penlan, Heol Gwyrosydd, Penlan, SA5 7RP | Y | Y | |
Llyfrgell Penlan | Y | Y | Y |
Pontarddulais | |||
Pontarddulais Post Office, 156 St Teilo Street, Pontarddulais, SA4 8RA | Y | ||
Llyfrgell Pontarddulais | Y | Y | Y |
Sketty | |||
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y Clun, Derwen Fawr Road, Sketty, SA2 8DU | Y | Y | |
Sketty Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, CK's, Sketty Park Drive, SA2 8JJ | Y | ||
Llyfrgell Sgeti | Y | Y | Y |
Townhill | |||
Graiglwyd Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 132 Townhill Road, Townhill, SA2 0UU | Y | ||
Townhill Post Office (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, 82 Penygraig Road, SA1 6JZ | Y | ||
Llyfrgell Townhill | Y | Y | Y |
Waunarlwydd | |||
CK's Supermarket, Swansea Road (link to map)Yn agor mewn ffenest newydd, Swansea Road, Waunarlwydd, SA5 4TQ | Y |
Gwneud cais am fwy o finiau a sachau ailgylchu
Os nad ydych yn gallu casglu sachau a biniau o un o'n cyflenwyr lleol, gallwch ofyn iddynt gael eu cludo i'ch cartref. Sylwch y gall gymryd hyd at 21 diwrnod i'w dosbarthu.