Marina Abertawe
Mae Marina Abertawe yn Ardal Forol arobryn Dinas Abertawe.
Ymylir arnom ar un ochr gan draeth tywodlyd Bae Abertawe. Mae canol y ddinas fywiog, gyda'r holl amwynderau y bydd eu hangen arnoch, daith gerdded fer yn unig i ffwrdd.
Mae ymweld â Marina Abertawe'n golygu y byddwch yn gallu cyrraedd Penrhyn Gŵyr yn hawdd. Dynodwyd Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain, a cheir sawl bae hardd yno lle y gallwch angori ac ymlacio.