Newidiadau arfaethedig i wasanaethau newyddion a chylchgronau mewn llyfrgelloedd
Mae llyfrgelloedd Abertawe ar agor ar gyfer pori, astudio a defnyddio cyfrifiaduron/y rhyngrwyd/wi-fi. Gwiriwch fanylion llyfrgelloedd unigol i weld pa wasanaethau sydd ar gael. Mae mesurau COVID ar waith felly mae'n bosib y bydd rhai gwasanaethau'n gyfyngedig.
Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu a gwasanaethau digidol fel adnoddau ar-lein, e-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-gylchgronau ar gael o hyd.
Mae gwasanaeth ymchwil a chopïo ar gyfer casgliadau cyfeirio ac astudiaethau lleol ar gael drwy wasanaeth Llinell Llyfrgelloedd.
Os ydych chi wedi benthyca unrhyw eitemau, byddwn yn eu hadnewyddu'n awtomatig i chi. Er hynny, gofynnwn i chi ddychwelyd unrhyw eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach er mwyn ateb y galw gan gwsmeriaid eraill.
