Mae Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe wedi llunio adran newydd #gartref i geisio'ch diddanu a'ch cadw'n brysur. Mae ganddynt syniadau a gweithgareddau gwych ac erthyglau diddorol o archifau Bae Abertawe wrth nifer o leoliadau a thimau Cyngor Abertawe. Ewch i'w tudalen yn Joio Fae Abertawe #gartref
Joio Bae Abertawe
Eich canllaw i bopeth digwydd yn ardal Bae Abertawe drwy gydol flwyddyn!
Joio Bae AbertaweYn agor mewn ffenest newydd yw'ch gwefan hollgynhwysfawr ar gyfer popeth sy'n digwydd trwy gydol y flwyddyn yn Abertawe. Yn y gaeaf, cewch yr holl newyddion a chyhoeddiadau am ddigwyddiadau allweddol y Nadolig. Cewch wybod pwy sy'n perfformio yn y noson tân gwyllt, a fydd yr olwyn fawr yn dychwelyd i Wledd y Gaeaf ar y Glannau ai peidio, oriau agor Marchnadoedd y Nadolig - yr holl wybodaeth hanfodol i chi drefnu'ch amser rhydd.
Yn ystod yr haf, cewch y diweddaraf am Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, cewch wybod pwy sy'n perfformio ym Mharc Singleton, yr hyn sy'n digwydd yng Nghastell Ystumllwynarth a llawer mwy. Mae gwefan Joio Bae AbertaweYn agor mewn ffenest newyddhefyd yn cynnwys blogiau unigryw a chynnwys cyffrous fel y cewch yr holl wybodaeth am raglen ddigwyddiadau flynyddol orlawn.
Os ydych yn fusnes a hoffech hyrwyddo'ch digwyddiad yn Abertawe, gallwch hefyd gael gwybod am ein pecynnau marchnata hynod effeithiol sy'n dechrau o £119. Os ydych yn unigolyn, yn deulu neu'n fusnes yn Abertawe, mae gan wefan Joio Bae Abertawe'r holl wybodaeth angenrheidiol i chi fwynhau'r hydref, y gaeaf, y gwanwyn a'r haf i'r eithaf.