
Hysbysebu a hyrwyddo
Mae gennym bortffolio cynhwysfawr o lwyfannau hysbysebu, o hysbysebu dan do i hysbysebu awyr agored.
- Hysbysebwch ar gerbydau ein cerbydlu - marchnata symudol ar y ffordd bob dydd
- Hysbysebu ar y wefan - gweler ein hystadegau misol
- Hysbysebu ar slipiau talu gweithwyr
- Hysbysebu gyda phosteri mawr ac ar sgriniau yn yr orsaf fysus, lle ceir mwy na 250,000 o ymwelwyr bob wythnos
- Hysbysebu yn nhoiledau'r orsaf fysus - targedu'n effeithiol
- Sgrîn ddigwyddiadau Theatr y Grand yng ngŵydd 30,000 o fodurwyr bob dydd
- Hysbysebion wedi'u lapio ar bileri mewn meysydd parcio aml-lawr
Mae nifer o gyfleoedd i noddi ein digwyddiadau arobryn yn Abertawe, gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, sy'n denu cynulleidfa o fwy na 200,000 o bobl. Ceir pecynnau sy'n addas ar gyfer pob cyllideb, a gellir eu teilwra i fodloni eich galwadau a'ch gofynion. I gael mwy o wybodaeth am noddi digwyddiadau, hysbysebu neu stondinau masnach, ewch i Joio Bae AbertaweYn agor mewn ffenest newydd neu ffoniwch 01792 635102.