
Gweithgareddau awyr agored
Mae cyfuniad perffaith o draethau, clogwyni a chefn gwlad yn Abertawe sy'n golygu ei fod yn lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth enfawr o weithgareddau.
Os hoffech fanteisio i'r eithaf ar y golygfeydd ar droed neu ar gefn ceffyl, mynd allan ar y môr i hwylio neu syrffio, neu chwilio am gyffro o chwaraeon megis syrffio barcut neu ddringo creigiau, bydd digon ar gael i'ch difyrru yn Abertawe a Gwyr.
I gael amser mwy hamddenol, beth am gael gêm o golff neu bysgota yn un o'r afonydd neu faeau. Does dim gwahaniaeth os oes gennych brofiad neu beidio, mae rhywbeth ar gael i bob lefel, felly gwnewch rywbeth gwahanol am newid.
Sylwer nid yw'r ffaith bod darparwyr gweithgareddau'n cael eu cynnwys ar wedudalennau neu gronfa ddata Dinas a Sir Abertawe yn golygu bod Dinas a Sir Abertawe yn eu cefnogi. Rydym yn darparu'r wybodaeth yn unig.
Cerdded
Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.
Bowls
Ceir sawl lawnt fowlio yn Abertawe, a chyfle i chwarae dan do ac yn yr awyr agored.
Beicio
Ewch ar eich beic gyda llwybrau beicio gwych yn Abertawe, rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybrau 4 a 43) a Lôn Geltaidd y Gorllewin.
Pysgota
Llynnoedd, pyllau a chlybiau pysgota bras yn Abertawe.
Geogelcio
Rhowch gynnig ar geogelcio o gwmpas Abertawe a Gŵyr i weld beth gallwch ei ddarganfod!
Meysydd golff a golff gwyllt
Mae gan Fae Abertawe amrywiaeth o gyrsiau golff sy'n addas i bob gallu. Maent yn cynnwys parcdir, gweundir, meysydd ymarfer, taro a phytio a golff gwallgof.
Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd
Ceir sawl Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn Abertawe
Cyfeiriannu
Mae Abertawe a Gŵyr yn fannau bendigedig i ymarfer cyfeiriannu.
Sglefyrddio, BMX a Llafnrolio
Mae parciau sglefyrddio gwych yn Abertawe lle gallwch arddangos a gwella'ch sgiliau sglefyrddio a BMX.
Tennis
Pick up a racquet and enjoy a game of tennis in Swansea.
Chwaraeon dŵr
Mae gan Fae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yr ail amrediad llanw mwyaf yn y byd sy'n eu gwneud yn berffaith ar gyfer chwaraeon dŵr fel syrffio, hwylio a barcudfyrddio.