Oherwydd y rheoliadau a fydd yn effeithio ar y sector lletygarwch o 6pm nos Wener 4 Rhagfyr, byddwn yn atal eich casgliadau gwydr dros dro nes y clywir yn wahanol a byddwn yn gweithredu gwasanaeth ar gais o ddydd Mawrth 8 Rhagfyr. Cysylltwch â ni os bydd angen casgliad gwydr/caniau arnoch.Caiff papur ei gasglu'n awr ar ddydd Gwener ar gais os bydd angen casgliad arnoch - e-bostiwch ni erbyn ganol dydd, dydd Iau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch gwastraff, e-bostiwch gwastraff.masnachol@abertawe.gov.uk

Gwastraff masnachol, busnes ac ailgylchu
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich busnes. Gellir eu dylunio i ddiwallu'ch anghenion gyda chynwysyddion o wahanol fathau a meintiau ac amlder y gwasanaeth casglu.
Pam dewis ein gwasanaeth casglu gwastraff?
- Cyfraddau cystadleuol, contractau pris sefydlog heb gostau cudd, ac mae'r holl gostau gweinyddu gan gynnwys nodiadau trosglwyddo gwastraff WEDI'U CYNNWYS
- Tîm lleol profiadol i ddelio ag ymholiadau ac i ddarparu ymgynghoriad a dyfynbris heb rwymedigaeth
- Dim pris am nodyn trosglwyddo gwastraff dyletswydd gofal
- Dim TAW
- Gwasanaeth hyblyg