
Cyngor i Ddefnyddwyr
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion defnyddwyr. Mae gan y wefan lawer o wybodaeth neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr neu ymweld â'ch swyddfa agosaf.
Gall gwefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenest newydd helpu gyda llawer o'ch ymholiadau fel defnyddiwr:
- Prynu neu drwsio car
- Problem gyda phryniant
- Gwyliau a chludiant
- Yswiriant
- Rydych chi wedi newid eich meddwl
- Post
- Ffôn, rhyngrwyd neu deledu
- Gwelliannau cartref
- Ynni
- Llythyrau templed
- Gweithredoedd twyllodrus
- Tocynnau ar gyfer digwyddiadau
- Dŵr
- Gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau
Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i ateb i'ch problemau neu os oes angen mwy o gyngor arnoch, gallwch chi ffonio'r llinell gymorth i ddefnyddwyr ar 03454 04 05 06 neu ffôn testun 18001 03454 04 05 06. Mae'r llinell gymorth i ddefnyddwyr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00am a 5.00pm.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn bersonol, gallwch chi ymweld â swyddfa.Gallwch chi ddod o hyd i'ch swyddfa agosaf trwy ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar wefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenest newydd.
Mae Cyngor ar Bopeth yn hysbysu Safonau Masnach am unrhyw gwynion y mae angen i ni ymchwilio iddynt.