
Casglu sbwriel yn wirfoddol
Mae nifer o hybiau casglu sbwriel yn Abertawe sy'n cynnig cyfarpar a chymorth i wirfoddolwyr.
Mae'r hybiau'n darparu'r cit, yr arweiniad diogelwch a'r yswiriant i chi gasglu sbwriel yn ddiogel a gallwch ddod o hyd iddynt yn:
- Llyfrgell Ganolog Abertawe
- Llyfrgell Clydach
- Llyfrgell Treforys
- Llyfrgell Pen-lan
- Llyfrgell Pontarddulais
- Llyfrgell Townhill
- Canolfan galw heibio Blaen-y-maes
Fe'u cynhelir mewn partneriaeth â Chadwch Gymru'n Daclus sy'n ariannu'r hybiau trwy ei raglen Caru Cymru.
Mae gan bob hwb tua 20 i 30 teclyn codi sbwriel ar gael i'w benthyca. Gall grwpiau wneud cais i fenthyca o sawl safle os oes angen.
Pwy all gymryd rhan
Gweler isod am y cyfyngiadau presennol ar grwpiau mawr yn casglu sbwriel oherwydd COVID.
- Unigolion
- Teuluoedd
- Grwpiau wedi'u trefnu
- Busnesau
- Ysgolion
Lleoliadau casglu sbwriel
Mae unrhyw le yn Abertawe'n dderbyniol, er mai'r traethau (Bae Abertawe/Bae Bracelet/Langland/Caswell/Porth Einon) a'n parciau mwy yw'r rhai mwyaf poblogaidd a ddewisir yn gyffredin.
Beth i'w wneud â'r sbwriel a gesglir?
Rhowch wybod i ni pryd a ble rydych yn bwriadu casglu sbwriel drwy lenwi'r ffurflen hon: Cais i gasglu sbwriel fel rhan o ddigwyddiad casglu sbwriel yn wirfoddol
Gallwn gysylltu â chi i gasglu'r sbwriel a chael gwared arno.
Cyfyngiadau COVID - grwpiau mawr
Yn anffodus ni allwn gefnogi grwpiau anffurfiol ar hyn o bryd, fel grwpiau mawr o bobl, teuluoedd lluosog etc.
Rydym yn gyfyngedig ar hyn o bryd i gefnogi'r canlynol:
- Grwpiau ffurfiol ag yswiriant:
- trefnydd y gweithgaredd sy'n gyfreithiol gyfrifol am sicrhau bod y gweithgaredd yn unol â rheoliadau ar ddiwrnod y digwyddiad
- gall gweithgaredd wedi'i drefnu fod â 30 o gyfranogwyr, ond mae'n rhaid i'r trefnydd allu bodloni'r holl ofynion cyfreithiol (yn enwedig o ran asesu risg, cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid priodol)
- Grwpiau ffurfiol heb yswiriant:
- gall grwpiau ffurfiol fenthyca offer o'n hybiau, a byddent wedi'u hyswirio ar yr amod eu bod yn dilyn canllawiau'r hwb ac yn bodloni holl ofynion cyfreithiol Coronafeirws
- trefnydd y gweithgaredd sy'n gyfreithiol gyfrifol am sicrhau bod y gweithgaredd yn unol â rheoliadau ar ddiwrnod y digwyddiad, nid rheolwr y hwb, ac mae hyn yn cynnwys asesu risg, cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid priodol.