-
Gerddi Botaneg Singleton
Gerddi Botaneg Singleton
Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.
Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae'r borderi blodau'n olygfa hyfryd o ddiwedd mis Mawrth tan ganol fis Hydref, a hyd yn oed yn ystod misoedd garw y gaeaf mae gan yr ardd lawer i'w chynnig, gyda hyd at 200 o blanhigion gwahanol yn eu blodau yn ystod tymor y Nadolig.
Am fod yr ardd hon wedi'i lleoli o fewn awyrgylch llonydd prif barc Singleton, mae'n lle hamddenol i ddod i edrych neu i ennyn ysbrydoliaeth am eich gardd eich hun. Mae digon o lefydd i eistedd ac edmygu'r golygfeydd braf.
Nodweddion diddorol
- Borderi blodau
- Gwelyau buddugoliaeth
- Gardd greigiau
- Gerddi addurnol
- Pont Japaneaidd
- Tai Gwydr
- Gardd berlysiau
- Planhigion ar werth
- Gardd blodau gwyllt/les
Oriau agor
Ionawr - Chwefror: 10.00am - 3.30pm
Mawrth - Ebrill: 10.00am - 4.30pm
Mai - Medi: 10.00am - 4.30pm
Hydref: 10.00am - 4.00pm
Tachwedd - Rhagfyr: 10.00am - 3.30pm
Mae'r mynediad i Erddi Botaneg Singleton am ddim. Gellir parcio yn Heol Sgeti (A4118) y tu allan i'r parc, neu gall deiliaid y Bathodyn Glas barcio y tu allan i brif fynedfa'r Gerddi Botaneg.
Cysylltiadau
-
Cyfeillion Safleoedd Botaneg Dinas Abertawe
Gwefan: www.botanicsswansea.co.uk
Facebook: https://www.facebook.com/Friends-of-City-of-Swansea-Botanical-Gardens-627050383987055/
E-bost: friendsofbotanics@gmail.com
Manylion llawn Cyfeillion Safleoedd Botaneg Dinas Abertawe