
Y diweddaraf am coronafeirws a chasgliadau gwastraff
Gwybodaeth am ailgylchu a sbwriel mewn perthynas â coronafeirws.
Casgliadau biniau ymyl y ffordd
Amserau casglu
Bydd rhai criwiau casglu'n dechrau eu gwaith yn gynharach nag arfer yn ystod yr amgylchiadau presennol. Sicrhewch felly eich bod chi'n rhoi eich holl ailgylchu a'ch sachau du ar ymyl y ffordd yn barod i'w casglu erbyn 6.00am ar eich diwrnod casglu.
- Cofiwch y dylid rhoi hancesi, papur cegin neu bapur tŷ bach a ddefnyddir i chwythu'ch trwyn yn eich SACHAU DU yn unig. PEIDIWCH â rhoi'r eitemau hyn yn eich sachau gwyrdd - ni ellir eu hailgylchu a gallent hefyd amlygu staff y cyngor i'r pathogen.
- Dilynwch y cyngor isod gan y Llywodraeth ynghylch cael gwared ar hancesi os ydych chi'n arddangos symptomau posib neu os ydych yn hunanynysu gyda phobl eraill:
'Gellir cadw gwastraff personol (megis hancesi wedi'u defnyddio) a chlytiau glanhau tafladwy yn ddiogel o fewn sachau sbwriel tafladwy. Dylid gosod y sachau hyn o fewn sach arall, gan ei chlymu'n ddiogel a'i chadw ar wahân i wastraff arall. Dylid ei gosod ar wahân am o leiaf 72 awr cyn ei rhoi yn eich bin gwastraff cartref allanol.'
Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y gwyliau
Sachau/bagiau ailgylchu newydd
Gellir parhau i wneud cais am ragor o sachau gwyrdd a leinwyr bwyd ar ymyl y ffordd gan ddefnyddio'r tag cofnodi.
Mae biniau gwastraff bwyd, sachau gwastraff gardd a bagiau pinc ar gael i'w casglu unwaith eto o nifer cyfyngedig o lyfrgelloedd.
Ffoniwch eich llyfrgell leol cyn ymweld i wirio argaeledd stoc ac i sicrhau eich bod yn mynd â'r arian cywir gyda chi os ydych chi'n bwriadu prynu bag gwastraff gardd (£2 yr un). Gallwch weld y rhestr ddiweddaraf o fanylion cyswllt ac oriau agor pob lleoliad ar dudalennau'r llyfrgelloedd.
Gallwch hefyd archebu sachau neu fagiau ailgylchu a chynwysyddion bwyd ar-lein i'w dosbarthu.
Canolfannau ailgylchu
Mae'r holl ganolfannau ailgylchu ar agor ond nodwch fod cyfyngiadau o hyd i ddiogelu preswylwyr a staff rhag y Coronafeirws.
Gweler ein tudalen canolfannau ailgylchu am fwy o gwybodaeth.
Siop ailgylchu Trysorau'r Tip
Ar agor - Siopa Ailddenfyddio - Trysorau'r Tip
Casgliadau gwastraff swmpus
Mae casgliadau gwastraff swmpus ar gael fel arfer. Gallwch drefnu casgliad ar-lein nawr.