Datganiadau i'r wasg Mehefin 2021

Prisiau prydau ysgol wedi'u rhewi nes 2022
Bydd prisiau prydau ysgol yn aros yr un peth un Abertawe ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Dweud eich dweud am hawliau plant
Gofynnir i bobl o bob oed yn Abertawe helpu'r cyngor i ddatblygu ei Gynllun Hawliau Plant ymhellach.

Dyluniad cynllun yn Abertawe yn derbyn cydnabyddiaeth am ragoriaeth amgylcheddol
Cydnabuwyd gwaith dylunio ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd a fydd yn darparu 600 o swyddi yn Abertawe am ei ffocws ar helpu i leihau ôl troed carbon y ddinas ymhellach.

Tîm rheoli lleoliad wedi'i benodi ar gyfer Arena Abertawe
Mae tîm rheoli lleoliad Arena Abertawe wedi'i gyhoeddi gan y cwmni a fydd yn cynnal yr atyniad.

Recriwtiaid newydd yn gweithio bellach yng nghymunedau'r ddinas
Mae chwe Chydlynydd Ardal Leol newydd wedi dechrau gweithio yn Abertawe ac maent bellach yn mynd o gwmpas eu hardaloedd yn dod i adnabod preswylwyr a sefydliadau.

Hwb digidol mawr ar gyfer gweledigaeth 'dinas gall' Abertawe
Mae gweledigaeth Abertawe i fod yn 'ddinas gall', gysylltiedig ar waith, diolch i hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd.

Gallwch gael y diweddaraf ar gynnydd Bae Copr drwy gyfryngau cymdeithasol
Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol newydd wedi'u lansio i helpu i roi'r diweddaraf i bobl ar gynnydd ardal cam un Bae Copr newydd Abertawe.

Datblygiad yn creu argraff ar Lisa, Rheolwr yr Arena
Mae rheolwr cyffredinol newydd Arena Abertawe, Lisa Mart, yn dweud bod y datblygiad newydd yn edrych yn drawiadol iawn.

Dinas yn dathlu pen-blwydd ei statws fel dinas noddfa
Heno bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo i ddathlu 11 mlynedd ers i Abertawe dderbyn statws Dinas Noddfa.

Mae'r fideo diweddaraf yn dangos yr arena y tu ôl i'r llenni
Mae'r fideo diweddaraf yn dangos cynnydd pellach ar ddatblygiad nodedig cam un Bae Copr sy'n cynnwys Arena Abertawe.

Contractwr wedi'i benodi ar gyfer cynllun newydd ar Ffordd y Brenin yn Abertawe
Mae contractwr wedi'i benodi i adeiladu datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg mawr newydd a fydd yn darparu lle i 600 o swyddi yng nghanol dinas Abertawe.

Galw ar y Cabinet i dalu am gae pob tywydd
Disgwylir i Gyngor Abertawe neilltuo bron £250,000 i ariannu maes chwarae pob tywydd â llifoleuadau ym Mhontarddulais.

Cerddi'n dod o hyd i gartref mewn seiliau ysgol newydd
Mae cerddi a ysgrifennwyd gan ddisgyblion a staff ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe wedi cael cartref parhaol yn seiliau eu hadeilad ysgol newydd gwerth £9.9m

Cynllun i ailgylchu hen ffonau clyfar i helpu eraill
Gofynnir i breswylwyr a busnesau yn Abertawe roi eu hen ffonau clyfar i gynllun sy'n cefnogi eraill i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Cynllun newydd yn bwrw goleuni ar bromenâd yn West Cross
Mae busnesau a beicwyr wedi croesawu cynllun goleuadau newydd gwerth £80,000 ar hyd y promenâd yn West Cross.

Help ar gael i ddisgyblion gynllunio'u dyfodol
Mae cymorth wrth law i ddisgyblion ysgol uwchradd yn Abertawe wrth iddynt gynllunio cam nesaf eu haddysg neu eu hyfforddiant galwedigaethol.

Angen gwirfoddolwyr i helpu i ofalu am y castell
Mae gwirfoddolwyr sy'n helpu i ofalu am un o gestyll gorau Cymru a'i arddangos yn falch i ymwelwyr yn chwilio am ragor o bobl i'w helpu.

Disgyblion yn cael cyngor diogelwch hanfodol oddi wrth weithwyr rheng flaen
Bydd mwy na 2,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd yn Abertawe yn derbyn cyngor amhrisiadwy ar ddiogelwch gan y rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen.

Cynnydd Bae Copr yn gwneud 'argraff fawr' ar Weinidogion y Llywodraeth
Mae dau o weinidogion Llywodraeth y DU wedi gweld â'u llygaid eu hunain y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud ar gynllun gwerth £135m yn ardal Cam Un Bae Copr yn Abertawe.

Cofebion Rhyfel i'w diogelu ar gyfer y dyfodol
Bydd cyngor Abertawe yn sicrhau dyfodol hirdymor yr holl gofebion rhyfel yn y ddinas drwy gymryd cyfrifoldeb am eu cynhaliaeth.

Yn eisiau: Atgofion i helpu i ddod â bywyd newydd i safle allweddol yn y ddinas
Mae hanes safle diwydiannol hanesyddol yn Abertawe'n dod yn fyw diolch i atgofion pobl sydd wedi nabod y safle dros y degawdau.

Mae'r Ravens o Gymru'n edrych ymlaen at Sioe Awyr Cymru 2022
Mae ein tîm erobateg cartref, The Ravens, yn bwriadu hedfan dros awyr Abertawe yn Sioe Awyr Cymru 2022.

Llwybr cerdded a beicio 'gwyrdd' newydd drwy Glun bron â'i gwblhau
Bydd rhan o goetir gorau Abertawe ar agor i bawb cyn bo hir diolch i lwybr cerdded a beicio newydd sy'n cysylltu'r Olchfa â'r môr drwy Ddyffryn Clun.
Penodi tîm arbenigol i helpu i greu hwb canol y ddinas cyhoeddus
Bydd tîm o weithwyr eiddo proffesiynol blaenllaw yn helpu Cyngor Abertawe i greu hwb cymunedol mewn adeilad sydd eisoes yn bodoli yng nghanol y ddinas.

Anrhydeddu ymgyrchydd atal caethwasiaeth gyda phlac glas
Bydd Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America tua 170 o flynyddoedd yn ôl, yn cael ei hanrhydeddu gan ei dinas enedigol ar 19 Mehefin (a elwir hefyd yn ŵyl Juneteenth) - y dathliad hynaf y gwyddys amdano o ddiwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Lleoliadau golygfaol i gael hwb ariannol
Bydd rhai o gyrchfannau treftadaeth, hamdden a harddwch naturiol mwyaf poblogaidd Gŵyr yn cael eu twtio yn y misoedd i ddod.

Cardiau post gan y cyhoedd yn helpu gydag ailagor oriel yn y ddinas
Mae cannoedd o bobl wedi anfon cardiau post i Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe ac maent bellach yn rhan o arddangosfa sy'n helpu'r lleoliad i ailagor yn ddiogel.

Llwyddiant gradd A i farchnad ynni effeithlon Abertawe
Mae Marchnad Abertawe wedi sicrhau'r sgôr ynni uchaf posib o sgorau ynni Llywodraeth y DU.

Y cyngor i fuddsoddi yn nyfodol cymunedau'r ddinas
Bydd Cyngor Abertawe yn helpu i arwain y ffordd allan o'r pandemig dros y misoedd i ddod, gyda chymorth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol.

Yr amgueddfa hynaf yn agor ei drysau
Bydd amgueddfa hynaf Cymru yn agor ei drysau i groesawu ymwelwyr yn ôl am y tro cyntaf mewn 14 mis heddiw (8 Mehefin).

Cyfleusterau hamdden yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig i dderbyn cymorth ychwanegol gan y cyngor
Bydd Cyngor Abertawe'n ehangu ei gyllideb ar gyfer y pandemig i'w gyfleusterau hamdden allweddol er mwyn sicrhau bod eu gwasanaethau o safon yn parhau i breswylwyr ledled y ddinas.
Cynlluniau i drawsnewid hen linell reilffordd ranbarthol Abertawe ar gyfer cerddwyr a beicwyr
Bydd hen linell reillffordd yng ngogledd Abertawe'n cael ei thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio newydd.

Y Cyngor yn buddsoddi £18,000 i roi hwb i ymdrechion cyllido torfol cymunedol
Mae cronfa i wella cyfleusterau lles a phrosiect i gynaeafu ffrwythau ffres wedi denu cymorth ariannol gan gyngor Abertawe.

Rhowch eich gwm cnoi yn y bin
Mae Cyngor Abertawe a BID yn dod ynghyd i annog pobl i beidio â thaflu gwm cnoi ar lawr ar strydoedd yng nghanol y ddinas.

Y ddinas yn cynnig gwledd o flodau i wenyn Abertawe
Bydd ardaloedd yn Abertawe'n llawn blodau yr haf hwn wrth i fenter plannu blodau gwyllt y cyngor ddechrau mynd rhagddi.

Cofrestrwch yn awr ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema'r 80au.

Mannau prydferth Gŵyr yn cael eu twtio
Bydd rhai o gyrchfannau treftadaeth, hamdden a harddwch naturiol mwyaf poblogaidd Gŵyr yn cael eu twtio yn y misoedd i ddod diolch i grantiau gwerth £325,000.

£39m i'w fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau
Disgwylir i gymunedau, ysgolion a gwasanaethau gofal cymdeithasol Abertawe dderbyn cymorth ychwanegol gwerth miliynau o bunnoedd yn y flwyddyn sydd i ddod.

Translation Required: Pandemic-hit leisure facilities set for extended council support
Translation Required: Swansea Council is set to extend its pandemic funding for its key leisure facilities to keep up their high-quality services for residents across the city.

Cyfleusterau hamdden yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig i dderbyn cymorth newydd gan y cyngor
Bydd Cyngor Abertawe'n ehangu ei gyllideb ar gyfer y pandemig i'w gyfleusterau hamdden allweddol er mwyn sicrhau bod eu gwasanaethau o safon yn parhau i breswylwyr ledled y ddinas.

Llongau teithio'n dod i Abertawe
Bydd dwy long deithio'n dod i Abertawe yr wythnos hon, a byddant yn cludo twristiaid o'r DU.

Artistiaid yr Oriel yn cynnig croeso cynnes i Abertawe
Mae ymwelwyr ag Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe wedi cynhyrchu gwaith celf lliwgar newydd sy'n cynnig croeso cynnes i bawb.
Y ddinas yn talu teyrnged ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mary Jones, ac arweinwyr lleol yn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn y lluoedd arfog mewn seremoni arbennig yn Rotwnda Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Sadwrn.

Plantasia'n lansio'r unig brofiad bwydo crocodeilod yng Nghymru
Mae sŵ'r goedwig law Parkwood Leisure, Plantasia, yn lansio profiad bwydo crocodeilod y mis hwn.

Teithio rhyngwladol hanfodol yn bosib trwy dystysgrif brechu
Mae timau olrhain cysylltiadau a TG Cyngor Abertawe'n ei gwneud hi'n bosib i bobl o Gymru, y mae ganddynt reswm hanfodol dros deithio'n rhyngwladol, gael tystysgrifau brechu mewn pryd ar gyfer eu taith.

Gwaith adnewyddu llwybr yr arfordir wedi'i drefnu ar hyd arfordir Gŵyr
Mae un o rannau mwyaf poblogaidd llwybr yr arfordir ym mhenrhyn Gŵyr yn cael ei ddargyfeirio i amddiffyn y llwybr rhag erydu arfordirol.

Rhagor o leoedd chwarae i blant wedi'u clustnodi ar gyfer cymunedau'r ddinas
Bydd lleoedd chwarae newydd neu wedi'u hailwampio yn cael eu hadeiladu mewn 9 cymuned ar draws Abertawe'r mis hwn fel rhan o fuddsoddiad £2m gan Gyngor Abertawe.

Gwirfoddolwyr ifanc yn helpu hen straeon gwaith copr y ddinas i oroesi
Mae hanes safle diwydiannol eiconig yn Abertawe'n dod yn fyw diolch i ymdrechion gwirfoddolwyr newydd.

Helpwch i lywio dyfodol hen siopau'r Stryd Fawr
Gwnaed gwaith adnewyddu ar res o hen eiddo masnachol ar Y Stryd Fawr a gofynnir i breswylwyr a grwpiau cymunedol gyflwyno awgrymiadau ynghylch sut i'w defnyddio yn y dyfodol.

Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi newidiadau i'r ffiniau o fewn Abertawe
Bydd Cyngor Abertawe'n gweld lleihad yn nifer y wardiau a chynnydd o dri yn nifer y cynghorwr a etholir i wasanaethu pobl Abertawe dan newidiadau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru.
Gwnewch gais yn awr am grantiau Haf o Hwyl
Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Abertawe yn cael eu hannog i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ein cymunedau'n cael haf o hwyl.

Byddwch yn gymdeithasol! Busnesau newydd yn Abertawe i gael eu clwb eu hunain
Bydd busnesau newydd yn Abertawe yn cael dosbarth meistr mewn defnyddio pŵer cyfryngau cymdeithasol.
Profion feirws am ddim ar gael yn llyfrgelloedd y ddinas
Mae Cyngor Abertawe'n ei gwneud hi'n haws nag erioed i breswylwyr wirio a oes ganddynt feirws COVID-19.