Datganiadau i'r wasg Medi 2020

Ffordd wedi'i chau yng Ngŵyr yn sgîl pryder y gallai gwympo
Mae prif ffordd yng Ngŵyr wedi'i chau oherwydd mae perygl y gallai gwympo'n fuan.
Abertawe dan gyfyngiadau symud lleol o nos Sul
Bydd Abertawe dan gyfyngiadau symud lleol o 6pm nos Sul i amddiffyn iechyd ein cymunedau ac i reoli ymlediad y feirws.

Babanod yn aros i gael eu cofrestru yn Abertawe
Mae gwasanaeth cofrestryddion prysur Abertawe wedi helpu cannoedd o fabanod i gwblhau eu taith i'r byd ers dechrau'r pandemig.
Cefnogaeth i ddisgyblion y mae'n rhaid iddynt hunanynysu
Ni ddylai disgyblion yn ysgolion y ddinas golli'r cyfle i ddysgu os gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd pandemig COVID-19.

Gweithwyr gofal i elwa o daliad o £500
Disgwylir i dros 800 o weithwyr gofal y cyngor elwa o daliad untro o £500 i gydnabod eu cyfraniad at amddiffyn pobl ddiamddiffyn yn ystod y pandemig.

Pont i ddyfodol Abertawe'n cyrraedd yr wythnos hon
Bydd cynllun adfywio gwerth £135m yn Abertawe'n cymryd cam mawr ymlaen yr wythnos hon.

Contractwyr yn cyrraedd y safle er mwyn adeiladu ysgol gwerth £11.5m
Mae contractwyr wedi cyrraedd y safle i ddechrau codi adeilad newydd gwerth £11.5m ar gyfer YGG Tirdeunaw.

Sesiynau dosbarth meistr byw am ddim i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion
Wythnos nesaf yw Wythnos Addysg Oedolion lle bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael i bobl leol sydd am ddysgu sgiliau newydd ar-lein.
Rhagor o welliannau i ffyrdd Abertawe
Bydd ffyrdd mewn cymuned Abertawe'n derbyn triniaeth PATCH yr wythnos hon i helpu i atgyweirio rhannau mawr o arwyneb y ffordd sydd wedi dirywio.

Llyfrgelloedd y ddinas yn dechrau ailagor
Mae'r rheini sy'n dwlu ar ddarllen yn cael y cyfle i ddychwelyd i'w llyfrgell leol i bori drwy'r silffoedd a defnyddio'r gwasanaethau eraill sydd ar gael.

Gwasanaethau hanfodol y cyngor yn parhau i wella
Mae gwasanaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr yn Abertawe bob dydd yn parhau i wella yn ôl adroddiad perfformiad blynyddol y cyngor.

Gwasanaethau cyhoeddus yn cryfhau yn sgîl pandemig
Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd wedi helpu i gefnogi Abertawe drwy'r pandemig yn parhau i gael eu cryfhau i gefnogi cymunedau ein dinas i'r dyfodol, yn ôl adroddiad newydd.

Busnesau lletygarwch yn gwneud eu rhan o ran rheolau COVID-19.
Mae gwiriadau ar hap gan dîm y cyngor wedi datgelu bod busnesau lletygarwch yn Abertawe'n gwneud eu rhan i gefnogi'u cymunedau drwy'r pandemig.

Bywyd newydd i bren gwastraff
Bydd pren gwastraff yn cael bywyd newydd dan brosiect arfaethedig gwerth £100,000 ar gyfer canolfan ailgylchu Llansamlet Cyngor Abertawe.
Gallai prosiect syrffio Big Build helpu i ddod o hyd i bencampwr y byd newydd
Mae un o aelodau'r tîm sy'n cynnal ysgol syrffio Surfability Abertawe ym Mae Caswell yn gobeithio y bydd cyfleuster newydd sbon arfaethedig yn helpu i lansio pencampwr y byd newydd ym maes syrffio.

Caiff preswylwyr eu hannog i ddilyn rheolau Coronafeirws i osgoi cychwyniad arall yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae arweinwyr Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi uno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i annog pobl i ddilyn y rheolau wrth i nifer y profion positif yn yr ardal barhau i gynyddu.

Rhieni'n cael eu hannog i gadw pellter cymdeithasol wrth gatiau ysgolion
Anogir rhieni a gofalwyr Abertawe i gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth ollwng a chasglu eu plant o'r ysgol.

Cynllun Pŵer Solar ar gyfer Tir John
Bydd cynlluniau i sefydlu fferm solar a weithredir gan y cyngor ar safle Tir John yn mynd gerbron y Cabinet yr wythnos nesaf.

Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun i fuddsoddi £1m mewn cyfleusterau chwarae
Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi £1m yn ychwanegol i wella cyfleusterau chwarae ar draws y ddinas.

Annog cartrefi i ddarllen a chadw deunydd pwysig am coronafeirws sy'n dod drwy'r post
Wrth i'r gaeaf ddynesu, ac wrth i'r nifer o achosion godi'n lleol ac yn genedlaethol, mae pob cartref ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar fin derbyn gwybodaeth bwysig am coronafeirws drwy'r post.
Timau Olrhain Cysylltiadau yn barod i gefnogi'n cymunedau
Mae timau olrhain cysylltiadau a arweinir gan awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cefnogi'r GIG i gadw'n cymunedau'n ddiogel.

Cynlluniau'r cyngor i ailagor derbynfeydd
Mae Cyngor Abertawe'n gweithio ar gynigion i ailagor rhai o'i dderbynfeydd wyneb yn wyneb wrth i fesurau'r cyfyngiadau symud a gyflwynwyd o ganlyniad i'r pandemig gael eu llacio.
Cyffordd newydd yn helpu i leihau tagfeydd yn Abertawe
Mae cwblhau cyffordd traffig newydd mewn lleoliad allweddol yn Abertawe wedi arwain at welliant syth mewn llifoedd traffig.

Miloedd o bobl yn mwynhau haf llawn hwyl yn Abertawe
Mae wedi bod yn haf llawn hwyl i deuluoedd o'r ddinas wrth i filoedd o bobl achub ar y cyfle i weld yr hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig ar-lein ac all-lein.

Busnesau'r ddinas yn elwa o werth £100m o gefnogaeth COVID-19
Mae busnesau yn Abertawe wedi derbyn bron £100m o gymorth ariannol yn ystod argyfwng Coronafeirws dan gynlluniau Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.
Rhaglen lawn o ddosbarthiadau dysgu gydol oes dros yr hydref
Mae Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe wedi rhoi rhaglen lawn o ddosbarthiadau ar-lein at ei gilydd ar gyfer tymor yr hydref a gall pobl gofrestru i ymuno ynddynt yn awr.

Masnachwyr Marchnad Abertawe'n gwneud yn dda
Gall masnachwyr sy'n dechrau yn ôl yn eu gwaith yn dilyn y cyfnod dan gyfyngiadau symud gael eu cysuro gan Lyn MacKay, masnachwr ym marchnad dan do Abertawe, y mae ei busnes yn y lleoliad arobryn yn mynd o nerth i nerth.
Gwelliannau Wind Street yn gwneud cynnydd
Mae cynllun blaengar gyda'r nod o brofi sut bydd Abertawe'n elwa o Wind Street heb draffig yn gwneud cynnydd ar ôl i'r prosiect peilot fod ar waith am fis.

Plant yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn ein sialens ddarllen
Mae cyfle o hyd gan blant yn y ddinas i ddarllen llyfr ac ymuno yn Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol y llyfrgelloedd.

Ymgyrch gofalwyr maeth yn targedu'r rheini y mae eu plant wedi gadael cartref
Mae Maethu Abertawe yn annog rhieni i ystyried maethu fel ffordd o 'lenwi cartref gwag' pan fydd eu plant hŷn yn gadael cartref.

Ysgrifenwyr yn Abertawe yn adrodd hanesion y cyfnod dan gyfyngiadau symud
Mae egin ysgrifenwyr o bob oed wedi'u hysbrydoli i gofnodi eu meddyliau am ddiwrnodau rhyfedd y cyfnod dan gyfyngiadau symud mewn arddangosfa newydd a gefnogir gan brosiect Cyfuno Abertawe.
Gwasanaeth symudedd allweddol canol y ddinas yn ailagor
Mae gwasanaeth pwysig yng nghanol dinas Abertawe wedi ailagor.

Chwilio'n fyd-eang am bartner adfywio i lywio Abertawe
Mae ymgais ffurfiol, fyd-eang i chwilio am ddatblygwr i helpu i roi hwb i ganol dinas Abertawe yn dilyn effeithiau COVID yn dechrau'r wythnos hon.

Wind Street: Cyngor mewn trafodaethau ag ystod eang o breswylwr
Trafodir gwelliannau i gyrchfan allweddol yng nghanol y ddinas â phreswylwyr ac ymwelwyr â'r stryd.
Croeso cynnes i lansiad byd-eang ymgyrch Adfywio Abertawe
Mae digwyddiad uchel ei broffil i ddenu buddsoddiad mawr i stori adfywio gwerth £1 biliwn Abertawe wedi gweld penawdau cadarnhaol yn cael sylw ar draws y byd.
Canslo dau ddigwyddiad i gadw'r gymuned yn ddiogel
Canslwyd dau o ddigwyddiadau gaeafol blynyddol Abertawe er mwyn helpu i gadw pobl leol yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.

Y darlun yn gyflawn unwaith eto - prif oriel gelf y ddinas
Disgwylir i Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe ailagor yfory - Dydd Sadwrn, 19 Medi.

Yn eisiau! Busnes i gynnal theatr y Palace Abertawe, sydd wedi'i thrawsnewid
Mae'r broses chwilio am denant arweiniol i gynnal tirnod hanesyddol canol y ddinas sy'n cael ei hadfywio gan Gyngor Abertawe wedi dechrau.

Dadorchuddio dyluniad ar gyfer caffi pafiliwn mewn parcdir newydd
Dadorchuddiwyd dyluniadau trawiadol ar gyfer caffi-bwyty a leolir yng nghanol parcdir newydd ger arena dan do Abertawe sy'n dod i'r amlwg.

Asiantaeth greadigol i ail-greu ardal allweddol ym Marchnad Abertawe
Bydd tîm o arbenigwyr dylunio arobryn yn ailfodelu ardal allweddol o Farchnad Abertawe.
Grantiau ar gael i weithwyr diwylliannol a chreadigol llawrydd yn Abertawe
Disgwylir i Gyngor Abertawe gynnig grantiau i helpu gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol drwy'r pandemig.

Canmoliaeth y cyngor i fusnesau sy'n gwneud y peth iawn i amddiffyn eu cwsmeriaid
Mae chwe siop farbwr yn Abertawe wedi derbyn hysbysiadau gwella am fethu â chydymffurfio â rheoliadau COVID-19.

Translation Required: Download the NHS Covid-19 App
Translation Required: Swansea residents are being urged to download the NHS COVID-19 app to help stop the spread of coronavirus and protect themselves and their loved ones as case numbers rise.
Cynllun yn cael ei gyhoeddi i arbed adeilad hanesyddol yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe yn gweithio i arbed hen adeilad diwydiannol pwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.