Datganiadau i'r wasg Mawrth 2021
Llyfrgelloedd i ailagor wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio
Disgwylir i lyfrgelloedd y ddinas, gweithgareddau awyr agored ParkLives i bobl ifanc a phatrolau traeth yr RNLI ailagor wrth i gyfyngiadau symud barhau i gael eu llacio.

Peidiwch â chael eich twyllo gan dwyllwyr Cyfrifiad 2021
Mae preswylwyr y ddinas yn cael eu hannog i beidio â chael eu twyllo gan dwyllwyr sy'n ceisio manteisio ar Gyfrifiad 2021 i gael gafael ar arian neu fanylion ariannol pobl.
Cymorth i fusnesau yn Abertawe yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig yn cynyddu i £155m
Mae Cyngor Abertawe'n rhoi miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol i helpu busnesau lleol i ddiogelu swyddi ac i oroesi pandemig COVID-19.

Annog preswylwyr i roi'r gair ar led am 'Dywedwch fwy wrthyf fi'
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i roi'r gair ar led ac annog eu ffrindiau a'u teuluoedd i gael brechlyn Covid-19.

Cynllun adferiad i dywys Abertawe i'r cyfnod wedi'r pandemig
Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu cynllun gweithredu adferiad economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas a fydd yn ceisio helpu i dywys y ddinas i'r cyfnod wedi'r pandemig.

Tîm yr Hwb Ieuenctid yn mynd o gwmpas y strydoedd
Mae ein swyddogion datblygu'r Hwb Ieuenctid yn parhau i weithio gyda phobl ifanc trwy gydol y cyfnod clo.

Arglwydd Faer yn clywed bod disgyblion yn mwynhau bywyd yn eu hysgol newydd
Mae Arglwydd Faer Abertawe wedi clywed bod disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Gorseinon wedi ymgartrefu yn eu hysgol newydd ac yn dwlu ar fywyd yno.

Arweinwyr y cyngor yn dod ynghyd i gefnogi Diwrnod Gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig
Mae arweinwyr y cyngor o ddwy o ddinasoedd mwyaf Cymru wedi dod ynghyd i gefnogi ymgyrch Stand Up to Racism cyn Diwrnod Gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig.

Gwefan newydd yn cyfleu dyfodol cyffrous pan fydd Theatr y Grand yn ailagor
Mae Theatr y Grand Abertawe wedi lansio gwefan newydd sbon â brandio newydd sy'n adlewyrchu cymeriad newidiol y theatr a'r ddinas.

Rhagor o Gydlynwyr Ardal Leol yn cael eu penodi wrth i'r cynllun ehangu
Mae chwe Chydlynydd Ardal Leol ychwanegol ar fin dechrau gweithio yn Abertawe wrth i'r cynllun gael ei ehangu i fwy o gymunedau yn y ddinas.

Preswylwyr yn cael eu cynorthwyo ar ôl gorfod gadael eu fflatiau
Mae Cyngor Abertawe yn gweithio'n galed i helpu preswylwyr blociau o fflatiau yn Matthew Street i ddychwelyd i'w cartrefi cyn gynted â phosib ar ôl iddynt orfod gadel eu fflatiau wedi i'r system taenellu dŵr gael ei chychwyn yn fwriadol.

Athletwr a dorrodd pob record wedi'i anfarwoli yn enw stryd ym Mae Copr
Bydd enw Cyril Cupid, athletwr o Abertawe a dorrodd pob record, yn cael ei anfarwoli fel rhan o adfywiad Bae Copr yng nghanol y ddinas.

Y ddinas i ddathlu cyfraniadau gwahanol i hanes Abertawe
Bydd Abertawe'n gwneud mwy i ddathlu'r cyfraniad a wnaed gan bobl o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol i ddatblygiad a hanes y ddinas.

Cynghorwyr hir eu gwasanaeth i dderbyn rôl fel llysgennad
Bydd dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe'n dod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer.

Ysgolion yn paratoi i weld rhagor o ddisgyblion yn dychwelyd
Mae Cyngor Abertawe'n gweithio gydag ysgolion wrth iddynt baratoi i weld rhagor o ddisgyblion yn dychwelyd i'r dosbarth yn ddiogel.

Abertawe'n dathlu menywod sydd wedi llywio'r ddinas
Mae Cyngor Abertawe'n dathlu ac yn tynnu sylw at fenywod sydd wedi chwarae rôl hanfodol yn hanes y ddinas a'r rhai sy'n parhau i wneud hynny.

£250k o arian grant ar gael i roi hwb i economïau gwledig
Mae dros £250k ar gael i gefnogi prosiectau blaengar a arweinir gan y gymuned a fydd yn helpu i roi hwb i ardaloedd gwledig Abertawe.

Canolbwynt deildy newydd yn cael ei chefnogi gan Farchnad Abertawe
Bydd ymwelwyr â Marchnad Abertawe'n gallu cymdeithasu wrth fwynhau cynnyrch ffres a bwyd a diod flasus a brynwyd yn y farchnad mewn canolbwynt sydd wedi'i greu o'r newydd yn y cyrchfan arobryn hwn.

Pedwar deg grŵp yn derbyn arian i fynd i'r afael â thlodi bwyd
Mae dros 40 o elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am grantiau gan Gyngor Abertawe i gefnogi eu gwaith.

Mwynhewch Ddydd Gwŷl Dewi!
Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn Abertawe mewn ffordd ychydig yn wahanol eleni. Er na allwn gynnal y digwyddiad Croeso arferol yng nghanol y ddinas, byddwn yn rhoi manylion i chi ynghylch sut gallwch wneud pryd tri chwrs blasus yng nghysur eich cartref eich hun.
Abertawe'n helpu llyfrgelloedd Cymru i gyrraedd y byd rhithwir
Bydd gan staff llyfrgelloedd ledled Cymru fynediad at becyn hyfforddiant digidol wedi'i deilwra'n arbennig diolch i swyddog o Gyngor Abertawe a grant gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Ffordd wych o sicrhau haf blodeuog eleni
Bydd cannoedd o breswylwyr a busnesau'n manteisio ar y cyfle i wella'u cartrefi a'u cymunedau'r haf hwn gydag ychydig o gymorth gan wasanaeth basgedi crog enwog Cyngor Abertawe.

Rhagor o gefnogaeth cymorthdaliadau i fasnachwyr Marchnad Abertawe
Bydd masnachwyr ym Marchnad Abertawe yn derbyn rhagor o arian i'w helpu drwy'r cyfnod clo presennol.

Pont arbennig yn cael ei gosod y penwythnos hwn
Caiff pont arbennig Bae Copr ei gosod ar draws Oystermouth Road mewn ffordd ofalus iawn y penwythnos hwn.
Y cyngor yn cytuno ar y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad
Mae Cyngor Abertawe wedi cytuno ar y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol ac un o'r codiadau treth y cyngor isaf yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Pecyn ysgogi gwerth £20m yn rhoi hwb i swyddi
Mae cronfa newydd gwerth £20m yn cael ei chreu gan Gyngor Abertawe i helpu busnesau'r ddinas a'i chymunedau i ddod allan o bandemig COVID yn gryfach.
Cymerwch ran yng Nghyfrifiad 2021
Mae'r cyngor yn galw ar bob teulu ym mhob cartref yn Abertawe i gymryd rhan yn yr arolwg mwyaf o'i fath a gynhaliwyd ym Mhrydain ers degawd.

Pont dirnod wedi'i gosod wrth i raglen adfywio gwerth £1 biliwn Abertawe fynd yn ei blaen
Cafodd pont dirnod newydd Bae Copr Abertawe ei rhoi'n ofalus yn ei lle mewn ymgyrch adeiladu fawr neithiwr a bore 'ma.

Ysgolion y ddinas i elwa o gronfa cynnal a chadw gwerth £9m
Ysgolion y ddinas fydd prif fuddiolwyr £9m ar gyfer gwaith cynnal a chadw a chynlluniau adnewyddu hanfodol dros y flwyddyn sydd i ddod.
Mesurau i dywys Abertawe i'r cyfnod wedi'r pandemig.
Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu cynllun gweithredu adferiad economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas a fydd yn ceisio helpu i dywys y ddinas i'r cyfnod wedi'r pandemig.

Gwaith yn dechrau ar uwchraddio llwybr ceffylau
Bydd Cyngor Abertawe yn dechrau ar y gwaith o uwchraddio llwybr ceffylau Dyffryn Clun i greu llwybr cerdded a beicio croesawgar sy'n cysylltu'r Olchfa â'r môr.

Staff y llyfrgell wrth law i helpu gyda'r Cyfrifiad
Mae staff Llyfrgell Abertawe wrth law i gefnogi'r rheini y mae angen help arnynt i gwblhau Cyfrifiad eleni.

Artistiaid Abertawe'n ychwanegu ychydig o liw i strydoedd canol y ddinas
Mae dau gasgliad newydd o waith celf a wnaed gan bobl o Abertawe'n cael eu harddangos yng nghanol y ddinas.

Goleuo Y Guildhall, Abertawe yn borffor i ddathlu Cyfrifiad 2021
Bydd Y Guildhall, Abertawe yn ymuno â thros gant o adeiladau a thirnodau ledled Cymru a Lloegr a gaiff eu goleuo'n borffor i ddathlu'r cyfrifiad a'i bwysigrwydd i gymunedau.

Cynllun adferiad i dywys Abertawe i'r cyfnod wedi'r pandemig
Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu cynllun gweithredu adferiad economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas a fydd yn ceisio helpu i dywys y ddinas i'r cyfnod wedi'r pandemig.

Ysgolion i elwa o £9m ar gyfer gwaith cynnal a chadw
Ysgolion y ddinas fydd prif fuddiolwyr £9m ar gyfer gwaith cynnal a chadw a chynlluniau adnewyddu hanfodol dros y flwyddyn sydd i ddod.

£5.3 miliwn wedi'i wario ar wella ffyrdd
Bydd y rhaglen ailwynebu ffyrdd cymunedol hynod boblogaidd, PATCH, yn cael hwb fel rhan o'r buddsoddiad gwerth £5.3m mewn ffyrdd ar draws y ddinas yn y flwyddyn i ddod.

Y cyngor yn helpu gyda phrosiect camlas
Mae Cymdeithas Camlas Tawe wedi prynu hen fangre cyflenwr adeiladwyr yn Hebron Road, Clydach.
Diffodd goleuadau ar gyfer yr Awr Ddaear
Mae preswylwyr Abertawe yn cael eu hannog i gefnogi digwyddiad diffodd goleuadau Awr Ddaear Cymru'r wythnos nesaf i ddathlu'r blaned a nodi'r angen i'w diogelu.
Y Cyngor wrthi'n trefnu llwybrau teithio llesol newydd yn y ddinas.
Bydd beicwyr a cherddwyr yn Abertawe yn elwa o naw cilometr o lwybrau beicio a cherdded newydd yn y misoedd i ddod.

Cytundeb pwysig ar gyfer Theatr y Palace
Mae un o fusnesau mannau gweithio digidol mwyaf blaengar Cymru yn barod i roi bywyd newydd i adeilad eiconig yn Abertawe.

Gallwch glicio a chasglu'ch llyfr nesaf o'ch llyfrgell leol yn Abertawe.
Mae miloedd o breswylwyr o bob rhan o Abertawe'n dal i fyny a'u hoff lyfrau yn ystod y cyfnod clo diolch i wasanaethau llyfrgell y cyngor.

Gallai adeilad allweddol yng nghanol y ddinas ddod yn hwb cyhoeddus i wasanaethau allweddol Abertawe.
Disgwylir i adeilad enwog yng nghanol y ddinas ddod yn gartref newydd i brif lyfrgell Cyngor Abertawe a llu o wasanaethau cymunedol eraill.