Datganiadau i'r wasg Mai 2021

Datblygiad mawr Ffordd y Brenin i ddechrau yn yr haf
Disgwylir i'r gwaith ar ddatblygiad swyddfa uwch-dechnoleg newydd a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi ddechrau yng nghanol dinas Abertawe yr haf hwn.

Hanner cant o gartrefi newydd yn barod i groesawu tenantiaid cyntaf
Mae rhai o'r cartrefi newydd cyntaf i gael eu hadeiladu gan Gyngor Abertawe ers cenhedlaeth yn cael eu cwblhau y mis hwn.

Dywedwch helô dros hanner tymor wrth Bawennau ar Batrol
Bydd cynrychiolwyr o rwydwaith atal troseddau Pawennau ar Batrol Abertawe o gwmpas y lle yn ystod hanner tymor.
Disgyblion yn cymeradwyo lle chwarae newydd
Mae plant ym Mhengelli wedi cymeradwyo lle chwarae sydd newydd gael ei uwchraddio yn y pentref.

Fideo a ffotograffau newydd yn dangos cynnydd Bae Copr
Mae ffilm a ffotograffau a dynnwyd gan ddrôn yn dangos cynnydd pellach ar gyfer ardal cam un Bae Copr Abertawe.

Y cyngor yn canmol gwirfoddolwyr am eu hymdrechion clirio cymunedol
Mae staff Cyngor Abertawe'n parhau i gefnogi teuluoedd yn dilyn anrhefn neithiwr yng nghymuned Mayhill a Waun Wen.

Y cyngor yn defnyddio adnoddau ychwanegol yn y gymuned ar ôl cythrwfl
Mae Cyngor Abertawe wedi defnyddio adnoddau ychwanegol yn ardal Mayhill a Waun Wen yn y ddinas yn dilyn cythrwfl neithiwr (20 Mai).

Hwb ariannol ar gyfer rhwydwaith Men's Sheds y ddinas
Mae naw prosiect sy'n darparu mannau cymunedol lle gall pobl o bob math o gefndiroedd gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd wedi rhannu mwy na £30,000 o gyllid gan Gyngor Abertawe.

Gwaith cadwraeth hanfodol i gadw'r castell
Mae contractwyr ar y safle ar hyn o bryd yn gwneud gwaith cadwraeth hanfodol i helpu i ddiogelu un o dirnodau mwyaf hanesyddol Abertawe.

Rhagor o ysgolion i elwa o'r buddsoddiad mwyaf erioed
Gallai Ysgol Uwchradd Tre-gŵyr, YG Bryn Tawe ac ysgolion arbennig Abertawe fod nesaf i elwa o'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn adeiladau ysgol yn y ddinas.

Cynnig i sefydlu parc dros dro ar gyfer canol dinas Abertawe
Bydd parc dros dro a fydd yn cynnwys mannau gwyrdd a chynwysyddion lliwgar ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd yn cael ei gyflwyno yng nghanol dinas Abertawe.

Cynllun pwysig yn yr arfaeth i gefnogi holl fusnesau Abertawe
Bydd cynllun gwerth £1 miliwn yn cael ei lansio'n fuan i annog siopa lleol drwy helpu busnesau lleol ym mhob cymuned ar draws Abertawe i adfer o effaith COVID-19.

Yr Arglwydd Faer yn agor ysgol newydd i ddisgyblion diamddiffyn
Mae ysgol newydd sy'n cefnogi rhai o bobl ifanc fwyaf diamddiffyn Abertawe wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Arglwydd Faer y ddinas.

Oes gennych chi le yn eich calon a'ch cartref i ofalu?
Mae cwpwl a ddaeth yn ofalwyr maeth bron blwyddyn yn ôl yn dweud ei fod wedi rhoi cryn falchder iddynt wrth helpu i newid bywyd ifanc er gwell.

Y cyngoryn darparu cymorth ariannol gwerth £1.2m i helpu bwytai, barau a chaffis.
Bydd busnesau lletygarwch yn Abertawe yn elwa o gannoedd ar filoedd o bunnoedd o gymorth gan y cyngor i helpu masnachu yn yr awyr agored.

Masnachu awyr agored: Hwb newydd i ddiwydiant lletygarwch Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi hwb arall i'r diwydiant lletygarwch.
Trysorau'r Tip yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl
Bydd ymwelwyr â Thrysorau'r Tip yn sylwi bod eu hoffi siop ailddefnyddio wedi'i hehangu a'i hadnewyddu i gynnwys adran ddillad newydd diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.

Ewch â baw eich anifail anwes adref gyda chi
Mae Cyngor Abertawe yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a rhoi baw eu cŵn yn y bin neu fynd ag ef adref gyda nhw.

Sŵ'r goedwig law yn dathlu genedigaeth rhywogaeth mewn perygl
Mae staff Plantasia yn dathlu genedigaeth dwy rywogaeth mewn perygl yn eu lleoliad yn Abertawe.

Translation Required: More blue flags for our beautiful beaches
Translation Required: THREE of our beautiful Gower beaches have retained their Blue Flag status just in time for the late May Bank Holidays.

Amddiffynfeydd môr y Mwmbwls Ymgynghoriad yn symud i'r cam nesaf
Mae Cyngor Abertawe'n lansio'r cam nesaf yn ei raglen ymgynghori i uwchraddio amddiffynfeydd môr i helpu i amddiffyn y Mwmbwls am y ganrif nesaf.

Cronfa adfer ddinesig gwerth £20 miliwn ar gyfer cymunedau'r ddinas
Mae pecyn cymorth gwerth £20 miliwn ar gyfer ein cymunedau'n bwriadu sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth i Abertawe adfer o'r pandemig.

Lleoliadau poblogaidd yn paratoi i ailagor
Mae tri o leoliadau poblogaidd ein dinas yn paratoi i groesawu ymwelwyr yn ôl yn ddiogel wrth i Lywodraeth Cymru barhau i lacio cyfyngiadau COVID-19.

Rownd newydd o grantiau busnes gweithwyr llawrydd ar gael
Bydd Cyngor Abertawe yn cynnig rownd newydd o grantiau i helpu gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol drwy'r pandemig.

Cyllideb atgyweirio ffyrdd yn cael hwb o £1.1m
Bydd cymunedau ar draws y ddinas yn derbyn miliwn o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer gwaith atgyweirio ffyrdd dros y flwyddyn i ddod.

Cannoedd wedi cael cyfle i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ar hwb cymunedol
Rhoddwyd mwy na 500 o ymatebion ffurfiol i arolwg gan Gyngor Abertawe ar gynlluniau i greu hwb cymunedol mewn adeilad sy'n bodoli eisoes yng nghanol y ddinas.

Penodiadau newydd i Gabinet Cyngor Abertawe
Bydd Cyngor Abertawe yn bwrw ymlaen a'i gynlluniau uchelgeisiol i gyflawni blaenoriaethau pobl y ddinas wrth iddi ddod drwy'r pandemig.

Cymunedau i dderbyn miliwn o bunnoedd i wella ffyrdd
Bydd cymunedau ar draws y ddinas yn derbyn miliwn o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer gwaith atgyweirio ffyrdd dros y flwyddyn i ddod.

Cabinet Cyngor Abertawe'n cymeradwyo'r gronfa cymorth a dargedir fwyaf erioed
Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo'r pecyn mwyaf erioed o gymorth a dargedir ar gyfer cymunedau'r ddinas sy'n adfer o'r pandemig.

Cymorth ychwanegol yn yr arfaeth i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Bydd teuluoedd a phobl ifanc ddiamddiffyn, yr henoed ac eraill sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol gan Gyngor Abertawe yn y flwyddyn i ddod.

Translation Required: Road closed for £200.000 upgrade
Translation Required: Swansea Council is starting a £200,000 resurfacing project this weekend in Carmel Road, Winch Wen.
Cynghorydd hir-wasanaeth yn dod yn Arglwydd Faer
Mae dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe wedi dod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer heddiw.
Cynllun i helpu i achub adeilad hanesyddol yn Abertawe yn cael ei gymeradwyo
Mae cynlluniau Cyngor Abertawe i achub hen adeilad diwydiannol hanesyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wedi'u cymeradwyo.

Hwb i fywyd morol gan dîm teils gwyddonol Abertawe
Bywyd morol gwerthfawr yn cael help llaw i ffynnu yn nyfroedd y Mwmbwls.

Bydd rhai o'r awyrennau a'r sioeau styntiau awyr gorau erioed yn hedfan fry dros Abertawe'r haf nesaf ar ôl i'r pandemig ein gorfodi i ganslo Sioe Awyr Cymru eleni.
Mae'n golygu y bydd y sioe awyr fwyaf erioed yn hanes Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd ar 2 a 3 Gorffennaf, 2022.

Cymorth i grwpiau sy'n mynd i'r afael â thlodi'r misglwyf
Mae elusennau a sefydliadau sy'n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi'r misglwyf yn Abertawe yn cael eu cefnogi gan y cyngor unwaith eto.

Mae'n bryd i ni dalu teyrnged i'n gwirfoddolwyr
Mae Abertawe'n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol drwy dalu teyrnged i'r miloedd o bobl sy'n rhoi o'u hamser er mwyn helpu eraill yn y ddinas.

Lido'n barod i ailagor ar gyfer hanner tymor
Mae Lido poblogaidd Abertawe yn Blackpill yn ailagor y penwythnos gŵyl y banc hwn ar gyfer haf o hwyl yn y ddinas.
Ymdrechion glanhau yn cael hwb gan weithlu glanhau newydd y cyngor
Bydd ymdrechion Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â phroblemau gwastraff sy'n effeithio ar ein cymunedau yn cael hwb pellach dros y misoedd nesaf.