Chwilio'r wefan
English

Y gronfa bensiwn ar y trywydd iawn i daro'r targed gwyrdd

Dywedir wrth gyfarfod y cyngor llawn yr wythnos nesaf fod cronfa bensiwn arobryn Cyngor Abertawe ar y trywydd iawn i dorri'i ôl troed carbon i 50% o lefelau mynegai erbyn y flwyddyn nesaf.

Hand holding money with green grass background

Mae'r gronfa £2.1 biliwn i ofalu am gronfeydd ymddeoliad 47,000 o aelodau eisoes wedi cymryd cam mawr i leihau ei hôl troed carbon drwy leihau'r swm o arian a fuddsoddir mewn cwmnïau olew a sefydliadau eraill â dwysedd carbon uchel.

Ac yn gynharach eleni, cytunodd ar fuddsoddiad o £30m mewn cwmnïau cynhyrchu ynni gwyrdd ledled y byd.

Mewn adroddiad arbennig i'r cyngor yr wythnos nesaf sy'n edrych ar ymrwymiad Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae ffigurau newydd yn datgelu bod ôl troed carbon y gronfa i lawr 47% o lefelau mynegai ac ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed lleihau uchelgeisiol o 50% a osodwyd pedair blynedd yn ôl.

Ar ben hynny, mae'r gronfa hefyd wedi neilltuo arian i gronfa fuddsoddi yn y DU sy'n cefnogi creu cartrefi i'w rhentu ar gyfer teuluoedd incwm canol 'gwasgedig' na allant fforddio morgeisi ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol.

Meddai Clive Lloyd, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Abertawe, "Mae'r gronfa'n darparu ar gyfer ei 47,000 o aelodau, mae'n darparu ar gyfer dyfodol y blaned ac yn darparu ar gyfer pobl y mae angen tai fforddiadwy arnynt i'w rhentu.

 "Ni oedd y cynllun pensiwn llywodraeth leol gyntaf yng Nghymru - ymysg nifer bach yn unig yn y byd - i gomisiynu adolygiad o'n portffolio buddsoddi ecwiti i ganfod graddau ein buddsoddiadau carbon a thanwydd ffosil.

"Ers hynny rydym wedi symud gwerth £0.5 biliwn o asedau i gronfeydd olrhain mynegai carbon isel gan leihau ymhellach yr hyn oedd yn lefel isel o fuddsoddiadau mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â charbon."

Dywedodd fod y gronfa bensiwn hefyd wedi ymrwymo'i hun i gefnogi dwy gronfa tai fforddiadwy gymunedol a weithredir yn y DU. Y syniad y tu ôl i'r fenter yw darparu llety rhentu preifat o safon neu dai perchnogaeth a rennir islaw rhent y farchnad gyffredinol yn yr ardal a ddewisir.

Meddai'r Cyng. Lloyd, "Nid tai cymdeithasol yw'r rhain ond tai fforddiadwy i deuluoedd na allant fforddio rhenti'r farchnad nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol - 'y canol gwasgedig'".

Wedi'i bweru gan GOSS iCM