Datganiadau i'r wasg Gorffennaf 2019

Gwaith i foderneiddio ysgol gynradd boblogaidd yn dechrau yn ystod gwyliau'r haf
Bydd gwaith i adnewyddu rhan o ysgol gynradd boblogaidd yn Abertawe'n dechrau yn ystod gwyliau'r haf gan gynnwys estyniad ystafell ddosbarth newydd.

Gall y gymuned weld cynlluniau ysgubor chwaraeon
Bydd disgyblion, staff a'r gymuned ehangach yn gallu cael rhagor o wybodaeth am gynlluniau ar gyfer hwb chwaraeon a chymunedol o'r radd flaenaf ar ochr ddwyreiniol Abertawe yn ystod digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ddydd Llun.

Artist yn bywiogi bywydau eraill ar ôl cael cefnogaeth gan Gydlynu Ardaloedd Lleol
Mae artist o Abertawe yn defnyddio'i dalentau i fywiogi bywydau eraill ar ôl iddo dderbyn help i adennill ei hyder ei hun ac i archwilio ei ddinas enedigol.

Cyrsiau achub bywyd yn agor drysau i fyd o gyfleoedd
Cynhelir cyrsiau achub bywyd sy'n rhoi'r sgiliau achub bywyd hanfodol i bobl ac sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir ledled y byd ym Mhwll Cenedlaethol Cymru'r haf hwn.

Disgyblion yn cyfrannu'n eithriadol at fywyd mewn ysgol gyfun Gymraeg
Mae arolygwyr wedi nodi bod disgyblion yn cyfrannu'n eithriadol at fywyd mewn ysgol gyfun Gymraeg yn Abertawe a'u bod nhw, yn ogystal â'r staff a'r gymuned ehangach, yn amlwg yn hynod falch o'u hysgol.
Perchennog busnes o Abertawe i ddiolch i EUB Tywysog Cymru
Bydd dyn o Abertawe a lwyddodd i newid ei fywyd gyda chymorth Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn cwrdd â Thywysog Cymru ar 3 Gorffennaf.

Proses chwilio am arbenigwr adeiladu i helpu i drawsnewid gwaith copr wedi dechrau
Chwilir am fusnes o'r radd flaenaf i ymgymryd â gwaith adeiladu hanfodol i adfywio hen ardal ddiwydiannol yn ne Cymru.

Newidiadau i'r ffyrdd yng nghanol y ddinas y penwythnos hwn
Bydd modurwyr yn Abertawe'n elwa o ddau welliant i ffyrdd canol y ddinas y penwythnos hwn wrth i Sioe Awyr Cymru gael ei chynnal.
Digwyddiad digidol yn rhoi neges gadarnhaol i'r rhai sy'n chwilio am waith
Rhoddwyd blas ar y diwydiant technoleg a digidol i bobl sy'n chwilio am waith yn ystod digwyddiad arbennig yn Abertawe.
Disgyblion yn camu nôl mewn amser ar gyfer 50 mlwyddiant y ddinas
Mae disgyblion mewn ysgol yn Abertawe wedi bod yn dysgu sut fywyd oedd gan fyfyrwyr ifanc 50 mlynedd yn ôl.
Gwaith adfer yn bont i'r dyfodol
Bwriedir i eiliad allweddol o ran diogelu tirnod hanesyddol yn Abertawe gymryd lle ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Adroddiad yn canmol ymdrechion i drawsnewid bywydau
Mae mentrau beiddgar sydd â'r nod o drawsnewid bywydau pobl yn Abertawe'n dechrau cael effeithiau cadarnhaol ar blant ifanc, pobl ddiamddiffyn a'r henoed yng nghymunedau'r ddinas.

Sioe Awyr Cymru yn syfrdanu torfeydd enfawr
Mae Sioe Awyr Cymru wedi dathlu blwyddyn lwyddiannus arall yn Abertawe gyda channoedd ar filoedd o bobl yn ymweld â'r ddinas i fwynhau sioe am ddim fwyaf y wlad.

Cronfa Bensiwn yn dechrau lleihau ei hôl troed carbon ar ôl trosglwyddo £0.5bn
Mae un o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol mwyaf Cymru wedi dechrau lleihau ei hôl troed carbon trwy leihau cyfanswm yr arian y mae'n ei fuddsoddi mewn cwmnïau gyda dwysedd carbon uchel.

Cynlluniau diweddaraf ar gyfer Stryd y Gwynt newydd i'w hystyried
Mae cynlluniau i ailfodelu un o strydoedd mwyaf poblogaidd Abertawe ar gyfer adloniant yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf.

Hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd i Fargen Ddinesig Bae Abertawe
Bydd partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael hwb ariannol gwerth £18 miliwn yn fuan i ddechrau cyllido nifer o brosiectau trawsnewid yn ne-orllewin Cymru.

Gwaith adfer yn bont i'r dyfodol
Cynhaliwyd eiliad allweddol o ran diogelu tirnod hanesyddol yn Abertawe ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Gallai cynllun gwasanaeth sgwteri helpu i arbed cannoedd o bunnoedd
Lansiwyd gwasanaeth yng nghanol y ddinas i helpu pobl yn Abertawe sy'n berchen ar sgwteri symudedd.
Cyn-ddisgybl ysgol yn Abertawe yn helpu i ddarparu llwybr beicio newydd ger ei ysgol
Agorwyd llwybr beicio newydd yn Abertawe ger ysgol gynradd leol, llwybr a ddyluniwyd gan gyn-ddisgybl.

Cynlluniau diweddaraf ar gyfer Stryd y Gwynt ar ei newydd wedd yn symud yn eu blaen
Mae cynlluniau i ailfodelu un o strydoedd adloniant mwyaf poblogaidd Abertawe'n symud ymlaen i'r cam nesaf.

Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol yn paratoi ar gyfer gorymdaith rhyddid
Mae Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol yn dathlu derbyn Rhyddid er Anrhydedd Abertawe gyda gorymdaith yng nghanol y ddinas ar 27 Gorffennaf.
Cymorth ariannol yn helpu i drawsnewid safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
Mae gwaith i adfywio un o safleoedd diwydiannol mwyaf hanesyddol Cymru'n gwneud cynnydd da.

Trysorau o long ryfel y Mary Rose i'w gweld am y tro cyntaf yn Abertawe.
Bydd eitemau o'r llong ryfel, y Mary Rose, balchder llynges Harri VIII, i'w gweld yn Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe.
Diwrnod arbennig i Catherine Zeta-Jones wrth iddi dderbyn Rhyddid er Anrhydedd
Mae'r actores sydd wedi ennill Oscar, Catherine Zeta-Jones, wedi derbyn Rhyddid er Anrhydedd ei ddinas enedigol mewn seremoni ysblennydd yn Neuadd y Ddinas Abertawe.
Gweithwyr ifanc, Liam a Harri, yn cynrychioli treftadaeth ddiwylliannol Cymru
Mae dau ddyn ifanc yn dangos bod dyfodol mawr yn nhreftadaeth ddiwylliannol Abertawe.

Lleoliadau gorau'n denu bron 1.3 miliwn o ymwelwyr mewn blwyddyn
Denodd tri o atyniadau hamdden a diwylliannol gorau Abertawe bron 1.3 miliwn o bobl mewn blwyddyn, yn ôl adroddiad i Gyngor Abertawe.
Gwaith gwerth £45 miliwn i drawsnewid adeilad nodedig yn Abertawe bron wedi'i gwblhau
Disgwylir i un o brosiectau adeiladu trawsnewidiol mwyaf canol dinas Abertawe gael ei gwblhau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Arena Abertawe: Gwaith adeiladu cynnar yn mynd rhagddo
Mae gwaith adeiladu paratoadol yn mynd rhagddo ar gyfer Arena Ddigidol Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl.

Translation Required: Vandal attack forces lido closure
Translation Required: SWANSEA Council has been forced to close Blackpill Lido for repairs after an overnight attack by vandals left the attraction with a huge cooking oil slick