Datganiadau i'r wasg Gorffenaf 2021

Llawer i'w wneud yn y ddinas ar gyfer ein Haf o Hwyl
Mae'n mynd i fod yn Haf o Hwyl i blant a phobl ifanc Abertawe, gyda channoedd o weithgareddau am ddim sy'n addas i amrywiaeth enfawr o ddiddordebau'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau haf ysgolion.
Gwasanaethau gofal cymunedol dan bwysau mawr
Mae darparwyr iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol yn rhybuddio preswylwyr i ddisgwyl newidiadau yn y ffordd y caiff cefnogaeth yn y gymuned ei chyflwyno.

Disgyblion artistig mewn ysgol newydd yn Abertawe yn creu argraff ar bawb
Mae gan ysgol fwyaf newydd Abertawe logo newydd sbon, diolch i ddoniau un o'i myfyrwyr.

Teulu o Abertawe i redeg bwyty ym mharc arfordirol newydd y ddinas
Mae teulu o Abertawe wedi ymrwymo i redeg busnes bwyd a diod newydd sy'n rhan o ardal Cam Un Bae Copr sy'n dod i'r amlwg yn y ddinas.

Hwb ariannol ychwanegol mawr ar gyfer cynllun i wella blaenau siopau
Mae tua £3 miliwn bellach yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun mawr i wella blaenau siopau i hybu siopa lleol ar draws Abertawe.

Gweithdai i roi cyngor cyfreithiol arbenigol i fusnesau newydd
Bydd cyngor arbenigol ar gael cyn bo hir i helpu busnesau newydd Abertawe gyda'r holl faterion cyfreithiol y dylent fod yn eu hystyried wrth sefydlu eu mentrau newydd.

Economydd arweiniol yn canmol adferiad economaidd Abertawe
Mae Abertawe'n dod allan o'r pandemig fel tynfa ar gyfer buddsoddiadau a swyddi, yn ôl un o economyddion arweiniol Cymru.

Buddsoddiad mawr newydd mewn cymuned yn Abertawe
Bydd buddsoddiad mawr newydd mewn cyfleusterau chwaraeon ac ieuenctid, ffyrdd, yr amgylchedd a busnesau yn helpu i roi hwb i gymuned yn Abertawe.

Dewch i gwrdd â'n timau sy'n gwneud Abertawe'n fwy diogel
Mae sefydliadau yn Abertawe wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol sy'n dod â phobl ynghyd i wrthwynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud cymunedau'n fwy diogel.

Mae'n wych trafod materion gwyrdd, yn ôl y cyngor
Mae Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, wedi dangos ei gefnogaeth ar gyfer gosodiad trawiadol newydd yng nghanol y ddinas.

Atal taliadau dros dro yn 'arwydd enfawr o gefnogaeth' ar gyfer chwaraeon lleol
Mae clwb pêl-droed cymunedol wedi canmol penderfyniad Cyngor Abertawe i atal taliadau ar gyfer caeau chwaraeon tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Gweinidog yn canmol adfywiad mawr parhaus Abertawe
O gynllun mawr i warchod ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog i brosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy'n gwella canol y ddinas, mae Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi gweld drosto'i hun raddfa enfawr y gwaith adfywio sy'n mynd rhagddo yn Abertawe.

Cyllid ar gael i frwydro yn erbyn tlodi'r misglwyf
Gall elusennau a sefydliadau sy'n gweithio i frwydro yn erbyn tlodi'r misglwyf yn Abertawe wneud cais bellach am gyllid gan y cyngor.

Abertawe'n ymuno ag ymgyrch faethu Cymru gyfan
Mae gwasanaeth maethu Cyngor Abertawe'n ymuno â'r holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i ddod yn 'Maethu Cymru'.

Abertawe'n dathlu Pride ar-lein
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymhlith y lleoliadau diwylliannol sy'n cefnogi Pride Abertawe eleni.

Buddsoddiad TG gwerth £11m ar gyfer ysgolion y ddinas
Bydd disgyblion o bob ysgol yn Abertawe yn elwa am flynyddoedd i ddod o fuddsoddiad enfawr mewn technoleg ddigidol.

Yr awr cymorth busnes gyntaf i roi awgrymiadau ar seiberddiogelwch
Mae awgrymiadau gan arbenigwyr ar seiberddiogelwch yn mynd i fod ar gael i fusnesau yn Abertawe.

Manylion y parc arfordirol yn dod i'r amlwg wrth i'r gwaith i wyrddlasu'r ddinas gyflymu
Bydd nodweddion dŵr, digon o wyrddni, gwestai pryfed a byrddau tenis bwrdd yn rhan o barc newydd cyntaf canol dinas Abertawe ers y cyfnod Fictoraidd.

Ymunwch â'n hymgyrch ailgylchu 'Nid Fan Hyn'
Caiff preswylwyr eu hannog i ymuno ag ymgyrch 'Nid Fan Hyn' ddiweddaraf Cyngor Abertawe er mwyn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%.
Ceisiadau ar agor ar gyfer grantiau tlodi bwyd
Gall elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe wneud cais yn awr ar gyfer grantiau gan y cyngor i gefnogi eu gwaith.

ATG yn cyhoeddi fideo o'r awyr newydd sy'n mynd â gwylwyr i mewn i Arena Abertawe
Mae fideo o'r awyr digidol trawiadol yn dangos sut bydd y tu mewn i Arena Abertawe yn edrych ar ôl iddi agor.

Buddsoddiad mewn sgiliau gwerth miliynau o bunnoedd i hybu'r rhanbarth
Gallai rhaglen gwerth £30 miliwn, a fydd yn rhoi sgiliau i filoedd o bobl leol i gael swyddi â chyflogau da yn y dyfodol, gymryd cam arall ymlaen yn fuan.

Unedau bwyd a diod newydd yn barod ar gyfer safle yng nghanol y ddinas
Gallai pedair uned bwyd a diod dros dro ar gyfer busnesau newydd lleol gael eu cyflwyno cyn bo hir yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn Abertawe.
Paneli aur yn cael eu gosod yn Arena Abertawe
Mae'r gwaith i osod paneli aur o'r radd flaenaf bellach wedi dechrau yn Arena Abertawe.

Ymgyrch codi arian newydd i gefnogi prosiectau cymunedol Abertawe
Mae'r fenter codi arian, Cyllido Torfol Abertawe, wedi lansio ymgyrch codi arian newydd a fydd yn gweld syniadau dan arweiniad y gymuned yn helpu'r ddinas i ddod yn fwy bywiog, cydnerth a chysylltiedig.

Buddsoddiad gwerth £50m ar gyfer cartrefi'r ddinas eleni
Disgwylir i Gyngor Abertawe fuddsoddi £50m gan ymgymryd ag ystod o waith atgywieirio, cynnal a chadw a gwella i gannoedd o gartrefi ledled y ddinas dros y flwyddyn i ddod.
Cynnig parcio yng nghanol y ddinas yn cael ei estyn i helpu modurwyr
Gall modurwyr yng nghanol dinas Abertawe barhau i elwa o ffïoedd parcio rhatach.

Bydd blodau haul yn llenwi oriel ac amgueddfa yn Abertawe'r haf hwn
Mae preswylwyr Abertawe'n helpu i ychwanegu ychydig o liw naturiol at Oriel Gelf Glynn Vivian yng nghanol y ddinas.

Busnesau lletygarwch yn cael eu hannog i ddal ati â'r gwaith da
Diolchwyd i fusnesau lletygarwch a'u cwsmeriaid yn Abertawe am helpu i gadw pobl yn ddiogel, a chânt eu hannog i ddal ati â'r gwaith da wrth i gyfraddau Coronafeirws gynyddu yng Nghymru.

Grant COVID hollbwysig gwerth £50,000 wedi'i sicrhau ar gyfer adeilad eiconig
Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Abertawe'n elwa o grant hollbwysig gwerth £50,330.

Gwaith yn datblygu ar safle hanesyddol
Mae gwaith yn datblygu ar un o brosiectau adfywio allweddol Abertawe.

Y cyngor yn ymladd yn erbyn twyll
Mae tîm canfod twyll Cyngor Abertawe'n helpu i arwain y ffordd yng Nghymru trwy fynd i'r afael â phobl sy'n ceisio twyllo'r system trwy hawlio arian neu wasanaethau'r cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt.

Y cyngor yn trawsnewid ei hun er mwyn helpu preswylwyr drwy'r pandemig
Yn ôl adroddiad newydd, trawsnewidiodd Cyngor Abertawe y ffordd y mae'n gweithio er mwyn cefnogi cymunedau, achub bywydau ac amddiffyn y GIG yn ystod y pandemig.

Rheolwr y farchnad yn ymddeol ar ôl dros 30 mlynedd
Mae'r dyn sy'n rheoli Marchnad Abertawe yn ymddeol ar ôl 31 o flynyddoedd yn y rôl

Siopwch yn lleol, siopwch yn Abertawe, meddai'r cyngor a masnachwyr
Mae masnachwyr o gwmpas Abertawe'n annog pobl i barhau i siopa'n lleol wrth i ganolfannau siopa ardal helpu'r ddinas i arwain y ffordd allan o'r pandemig.

Cyngor Abertawe'n helpu pobl ifanc i gychwyn eu gyrfaoedd
Mae pobl ifanc yn canmol ymdrechion Cyngor Abertawe i'w helpu i ddod o hyd i waith

Posibilrwydd y gall cerddwyr a beicwyr elwa o lwybr defnydd a rennir newydd
Cynigir gosod llwybr defnydd a rennir newydd ar hyd prif lwybr sy'n cysylltu Penllergaer â Gorseinon.
Ymdrechion glanhau yn cael hwb gan weithlu glanhau newydd y cyngor
Bydd ymdrechion Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â phroblemau gwastraff sy'n effeithio ar ein cymunedau yn cael hwb pellach dros y misoedd nesaf.

Adolygiad annibynnol i helpu i gefnogi cymunedau clos
Mae adolygiad ar y cyd annibynnol yn cael ei sefydlu fel rhan o fesurau i gefnogi cymuned yn Abertawe.

Materion cymunedol yn cael sylw yn Mayhill a Waun Wen
Bydd pobl Mayhill a Waun Wen yn gallu trafod amrywiaeth eang o faterion cymunedol gyda ffigurau allweddol yr wythnos hon.

Teithio ar fysus am ddim i bawb yn Abertawe
Gall pawb deithio am ddim ar fws o gwmpas Abertawe yn ystod misoedd yr haf.

Hwb ar gyfer y gwyliau wrth i'r castell hanesyddol ailagor
Mae Castell Ystumllwynarth, un o gestyll hanesyddol Abertawe, yn ailagor ei gatiau ar gyfer teithiau tywys drwy gydol gwyliau'r haf.

Ffrwythau a llysiau cartref mewn banc bwyd diolch i grant
Mae banc bwyd a agorodd ychydig cyn i bandemig COVID gychwyn bellach yn dosbarthu ffrwythau a llysiau cartref diolch i grant gan Gyngor Abertawe.

Cymuned yn croesawu cyllid ardal chwarae
Mae cyllid ar gyfer ardal chwarae newydd ym Mayhill wedi cael croeso cynnes gan y gymuned.

Cymunedau'n dathlu cwblhau ardaloedd chwarae
Mae pedair cymuned yn Abertawe'n dathlu yn dilyn cwblhau ardaloedd chwarae newydd i blant neu ardaloedd wedi'u hadnewyddu a grëwyd fel rhan o fuddsoddiad £2m gan Gyngor Abertawe.

Mae plant Pen-lan wrth eu boddau gyda'u hardal chwarae newydd
Mae plant ym Mhen-lan wedi mwynhau chwarae yn ystod yr haf diolch i waith i adnewyddu ardal chwarae boblogaidd ym Mharc Knoyle.

Mae croeso i chi fwynhau paentiad newydd yr oriel - a cherdded drosto hefyd!
Mae oriel gelf yn Abertawe'n gwahodd ymwelwyr i werthfawrogi paentiad newydd - drwy gerdded drosto.

Golwg o'r awyr - mwy o gynnydd ar safle Bae Copr
Mae gwaith yn parhau ar safle eich arena newydd sbon yn ardal Bae Copr y ddinas sy'n dod i'r amlwg, fel y gwelwch o'n delweddau diweddaraf a dynnwyd gan ddrôn.

Teithiau am ddim ar fysus ar fin dechrau yn Abertawe
Gall teithwyr bysus sy'n defnyddio cynllun teithio am ddim newydd yn Abertawe deithio'n hawdd trwy gynllunio ymlaen llaw.
Peidiwch â gadael eich barbeciwiau tafladwy ar lawr
Anogir pobl sy'n ymweld â'r traeth i wneud y peth iawn a mynd â'u sbwriel adref gyda nhw'r haf hwn, yn enwedig barbeciwiau tafladwy.

Mae plant Gellifedw wrth eu boddau gyda'u hardal chwarae newydd
Mae plant yng Ngellifedw'n dathlu diolch i waith i adnewyddu ardal chwarae boblogaidd ym Mharc yr Helyg.