Y diweddaraf am Coronafeirws #YmaIAbertawe
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Mae bwletin dyddiol y cyngor wedi symud i gylchlythyr wythnosol drwy e-bost.
I dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gennym, cofrestrwch ar gyfer ein e-bost yma: www.abertawe.gov.uk/ebost
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
www.facebook.com/cyngorabertawe1
https://twitter.com/CyngorAbertawe
Y datganiadau a'r datganiadau i'r wasg diweddaraf am Coronafeirws
Anogir preswylwyr a rhieni i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol diwygiedig y llywodraeth a dylai unrhyw un sy'n profi symptomau barhau i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd ar gael yma: Yr wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os ydych yn pryderu y gall fod gennych Coronafirws, gallwch wirio'ch symptomau gan ddefnyddio gwiriwr symptomau GIG Cymru.
Gwiriwr Symptomau Coronafeirws COVID 19 GIG Cymru
Os oes gennych symptomau Coronafeirws, dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cyngor hynanynysu
Dylech ffonio 111 dan yr amgylchiadau hyn yn unig:
- os rydych yn teimlo na allwch ymdopi â'ch symptomau gartref
- os yw eich cyflwr yn gwaethygu
- os nad yw'ch symptomau'n gwella ar ôl 7 niwrnod.