
Ceisiadau priffyrdd a thrwyddedau
Gwnewch gais am drwyddedau priffordd a stryd, gan gynnwys sgipiau, hysbysfyrddau, adeiladau gordo a chaffis palmant.
Gallwch wneud cais am nifer o hawlenni a thrwyddedau naill ai drwy'r post neu ar-lein.
Mae'r ffurflenni hyn ar gael i'w lawrlwytho, i'w hargraffu a'u cyflwyno drwy'r post. Gweler y ffurflenni unigol ar gyfer manylion cyswllt.
-
Building Material, Excavation, Cabins/Containers & Roll on/off (PDF, 158KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Streetworks Licence Guidance and Application (PDF, 293KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Traffic Regulation Order (PDF, 147KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
PORTABLE_TRAFFIC_SIGNAL (PDF, 136KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Mae'r ffurflenni hyn ar gael i'w cyflwyno ar-lein. Gellir gwneud taliadau ar-lein hefyd. Yn ogystal, mae fersiynau y gellir eu lawrlwytho o'r ffurflenni ar gael os byddai'n well gennych wneud cais drwy'r post.
Caniatâd i osod sgaffaldiau / hysbysfyrddau / ffensys ar briffordd
Os ydych yn bwriadu gosod sgaffaldau, hysbysfyrddau neu ffensys ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus yn Abertawe, bydd angen trwydded arnoch gennym.
Caniatâd i osod Fframiau A/byrddau hysbysebu/arwyddion ar y briffordd
Os ydych am osod fframiau A, byrddau hysbysebu neu arwyddion ar y briffordd, bydd angen hawlen arnoch gennym.
Hawlen bargodi dros dro
Dylech gyflwyno cais am hawlen i ni os ydych am ddefnyddio craen, lifft siswrn, craen fasged neu rywbeth tebyg, ar neu dros briffordd gyhoeddus.
Ceisiadau am hawlen sgip
Mae'n rhaid gwneud cais am hawlen er mwyn gosod sgip ar y briffordd. Dylid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn eich bod yn bwriadu ei osod ar y briffordd.
Trwydded Caffi Palmant
Mae Trwydded Caffi Palmant yn galluogi busnesau i ddarparu ardaloedd eistedd awyr agored dynodedig yn unig er mwyn i'w cwsmeriaid allu bwyta ac yfed.
Gwaith adeiladu neu addasiadau sy'n effeithio ar y briffordd
Os rydych eisiau adeiladu neu addasu'ch eiddo mewn modd a fydd yn peri i'r gwaith estyn allan dros y briffordd neu orgyffwrdd â hi, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gennym.
Ffurflen gais am groesiad i gerbydau
Mannau croesi i gerbydau neu gyrbau isel yw'r cerrig cwrbyn isel sy'n galluogi cerbydau i gael mynediad i'w rhodfeydd a mynedfeydd eraill i gartrefi.