Chwilio'r wefan
English

Mae croeso i chi fwynhau paentiad newydd yr oriel - a cherdded drosto hefyd!

Mae oriel gelf yn Abertawe'n gwahodd ymwelwyr i werthfawrogi paentiad newydd - drwy gerdded drosto.

CarlosGV

Mae Glynn Vivian Cyngor Abertawe'n arddangos y darn newydd, Habitar el Color (lliw byw), sy'n 70 metr sgwâr, ar lawr ei phrif ardal arddangos.

Fe'i crewyd gan yr artist o Bortiwgal, Carlos Bunga, fel darn o gelf bwrpasol yn y Glynn Vivian.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Hoffem gynnig celf sy'n gyffrous ac yn heriol i'r cyhoedd - a dyna beth yw'r gwaith newydd hwn. Yn anaml rydym yn gofyn i bobl gerdded dros drysorau ein horiel ond rydym yn gofyn iddynt wneud hynny yn awr!"

Mae'r celf llawr yn rhan o Terra Ferma y Glynn Vivian, yr arddangosfa unigol fwyaf gan Bunga yn y DU.

Mae Habitar el Color yn cynnwys paent lliw melyn dwys yn gorchuddio'r llawr. Mae'r lliw'n adlewyrchu i fyny.

Meddai Carlos Bunga, "Drwy gerdded ar arwyneb y paentiad sydd wedi cracio, mae'n teimlo fel y gallech fod mewn tirwedd sydd wedi'i chrasu gan yr haul neu ein bod yn cerdded yng ngolau'r haul. Mae'r melyn yn newid yn ddyddiol ac mae'n archwilio syniadau am amser, cylchoedd a phrosesau."

Rhagor:    www.glynnvivian.co.uk   

Llun:Carlos Bunga yn y Glynn Vivian. Llun gan Polly Thomas

 

 

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM