Datganiadau i'r wasg Awst 2021

Plant yn dathlu ardal chwarae newydd yn Heol Las
Mae plant sydd wedi bod yn mwynhau diwrnodau allan ym Mharc Heol Las yn Abertawe wedi cael rheswm ychwanegol i ddathlu'r haf hwn o ganlyniad i waith uwchraddio i ardal chwarae'r parc.

Buddsoddiad mwyaf erioed mewn adeiladau ysgolion
Gwneir y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol ac uwchraddio adeiladau ysgolion yn Abertawe eleni.

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Safon Uwch y ddinas
Mae myfyrwyr Safon Uwch Abertawe'n dathlu heddiw ar ôl ennill graddau rhagorol yn ystod blwyddyn anghyffredin.

A allai'r gemau Olympaidd ysbrydoli'ch haf o hwyl?
Gall plant a phobl ifanc yn Abertawe roi cynnig ar amrywiaeth o gampau cyffrous sy'n newydd i'r gemau Olympaidd am ddim fel rhan o Haf o Hwyl y ddinas.

Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o gam-drin domestig i'r gymuned.
Mae hyfforddiant am ddim yn cael ei gynnig i aelodau'r gymuned yn Abertawe i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ac adnabod arwyddion ohono.

Banciau bwyd y ddinas yn gofyn am gefnogaeth barhaus
Gofynnir i bobl yn Abertawe barhau i gefnogi'r rhwydwaith o fanciau bwyd yn y ddinas os gallant.

Cynnydd o 20% yn y defnydd o fysus ar benwythnos cyntaf y cynnig am ddim
Bydd gan bawb gyfle i ddefnyddio bysus yn Abertawe am ddim o heddiw (dydd Gwener) ar gyfer ail benwythnos hir y cynnig arloesol.

Neges cymorth cam-drin domestig yn cael ei rhannu gan dafarndai
Bydd nodiadau atgoffa bod cefnogaeth ar gael pob awr o'r dydd i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o'i ddioddef yn ymddangos ar draws Abertawe.

Canolfannau hamdden y ddinas yn ymuno â'r Haf o Hwyl
Mae canolfannau hamdden ar draws Abertawe'n cynnal digwyddiadau am ddim yr haf hwn fel rhan o ymgyrch Haf o Hwyl y ddinas.

Rhaglen lawn ar gyfer diwrnod hwyl am ddim i'r gymuned
Mae rhaglen lawn o adloniant a gweithgareddau am ddim wedi'u trefnu ar gyfer diwrnod cymunedol am ddim yn Abertawe'r wythnos nesaf.

Cyflwynwch gais nawr am gyfran o gyllid Men's Sheds gwerth £25,000
Gwahoddir prosiectau Men's Sheds yn Abertawe i gyflwyno cais am gyllid.

Mae plant Gellifedw wrth eu boddau gyda'u hardal chwarae newydd
Mae plant yng Ngellifedw'n dathlu diolch i waith i adnewyddu ardal chwarae boblogaidd ym Mharc yr Helyg.

Cynlluniau i drawsnewid hen linell reilffordd ranbarthol Abertawe ar gyfer cerddwyr a beicwyr
Bydd hen linell reillffordd yng ngogledd Abertawe'n cael ei thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio newydd.

Recriwtiaid Grŵp Gweithredu'n helpu i lywio cymunedau gwledig Abertawe
Mae aelodau newydd o gorff allweddol yn dweud eu bod yn bwriadu helpu ardaloedd gwledig Abertawe i ddod yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Theatr awyr agored yn dychwelyd i'r Mwmbwls
Bydd theatr awyr agored fyw yn dychwelyd i'r Mwmbwls yr haf hwn.

Ffordd y Brenin yn mynd yn wyrdd wrth i Abertawe arwain y ffordd ar gyfer y dyfodol
Mae lluniau trawiadol newydd gan ddrôn yn dangos sut mae un o brif ardaloedd canol dinas Abertawe wedi mynd yn wyrdd - ac mae'n arwydd o ddyfodol gwyrddach.

Gorsaf radio'n ymuno yn yr hwyl yn ystod diwrnod cymunedol
Bydd y gweithgareddau a gynhelir ar gyfer diwrnod cymunedol yn ardal Mayhill a Waun Wen ddydd Iau (12 Awst) yn cynnwys castell neidio ac ardal chwarae meddal.

Helpwch i lunio sut bydd ein cymunedau'n edrych ac yn teimlo yn y dyfodol
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am gynigion cynllunio a fydd yn helpu i lunio sut bydd ein cymunedau'n edrych ac yn teimlo yn y blynyddoedd i ddod.

Ymdrech y cyngor i ddiogelu blodau gwyllt a phryfed yn gymeradwy
Mae tîm parciau Cyngor Abertawe yn defnyddio ymagweddau newydd clyfar at dorri gwair sy'n helpu i ddiogelu planhigion a phryfed ledled cymunedau'r ddinas.

Tiwtora arbenigol yn helpu i leihau allyriadau carbon Abertawe
Mae tiwtora arbenigol yn helpu Cyngor Abertawe i gymryd mwy o gamau gweithredu nag erioed i helpu i reoli newid yn yr hinsawdd.

Llawer o hwyl wrth i deuluoedd fwynhau diwrnod cymunedol
Roedd digonedd o hwyl i'r teulu cyfan wrth i breswylwyr Mayhill a Waun Wen ddod ynghyd ar gyfer diwrnod cymunedol.

Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema'r 80au
Disgwylir i'r digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe gael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi a bydd y cyfle i gofrestru'n cau ar 31 Awst, er gall hyn fod yn gynharach os nad oes lleoedd ar ôl cyn hynny.

Diwrnodau hwyl a ffilmiau i ddod â bywyd newydd i barciau'r ddinas
Bydd parciau yn Abertawe'n rhan o ŵyl i deuluoedd yr haf hwn.